Print

Print


Mi boenan ni am ychwanegu'r orsaf pan ddigwyddith - a gobeithio na neith o ddim! Diolch i bawb am eich help - mi faswn i di picio i'r orsaf i glwad, ond ma braidd yn bell i mi!

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2016-09-01 12:03 GMT+02:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>:
Oce Anna - ti sydd wrth y llyw.  Mae'r petha 'ma'n medru mwydro'n penna ni hyd syrffed weithia. :)

2016-09-01 10:44 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:
Paid a chymhlethu petha eto fyth da chdi! Dyna fi di gorffan efo trena am y tro diolch byth.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2016-09-01 11:38 GMT+02:00 Eluned Mai <[log in to unmask]>:
Mae hwyl i'w gael wrth gyfieithu weithiau - hoffi'r geiniog!

Os ydych chi'n ychwanegu'r gair gorsaf at enw'r orsaf, wrth gyfieithu Cardiff Central Station mae Gorsaf Caerdydd Canolog yn swnio'n fwy synhwyrol.  Ond os cyfieithwch chi London Paddington Station, pa un sy'n swnio'n fwy synhwryrol, Gorsaf Paddington Llundain ynte Gorsaf Llundain Paddington?

2016-09-01 9:57 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:
Mae hynny'n gneud mwy o sens o ran eglurder a chyflymdra dallt. Dyna fydd hi ta.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2016-09-01 10:54 GMT+02:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:

O ran patrwm, enw’r ddinas ac wedyn enw’r orsaf benodol yw’r arfer.

 

Caerdydd Canolog

Caerdydd Heol y Frenhines

Wrecsam Cyffredinol

Wrecsam Canolog

Manceinion Piccadilly

Manceinion Oxford Road

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 01 September 2016 09:50
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: London Paddington

 

Ar hyn o bryd y sgor ydi Paddington Llundain - 2, Llundain Paddington - 2. Oes rhagor am gynnig, ta'r geiniog pia hi? Beth bynnag benderfyna'r geiniog, mi ddilynna i'r un patrwm efo Bristol Temple Meads.

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2016-09-01 10:44 GMT+02:00 Meinir Thomas <meinir.thomas.translator@dyfed-powys.pnn.police.uk>:

Ro'n i arfer teithio'n aml i Lundain o Gaerfyrddin tan yn weddol diweddar (a dal yn defnyddio'r trên hwnnw ychydig o weithiau'r flwyddyn, yn ogystal â'r trên o Gaerfyrddin i Fanceinion), a Paddington Llundain sy'n cael ei gyhoeddi yn yr orsaf yng Nghaerfyrddin.

Meinir