Print

Print


Wel, nid fi yw'r unig un sy'n defnyddio Trydar ar gyfer Twitter fel enw, yn hytrach na ferf  e.e.

http://golwg360.cymru/newyddion/prydain/115574-embaras-ar-drydar-i-david-cameron

1)  "Embaras ar Drydar i David Cameron

Mae gwefan Trydar wedi achosi embaras i Brif Weinidog Prydain, David Cameron unwaith eto..."

2) http://www.scoutscymru.org.uk/news/scoutscymru-launch-social-media-toolkit

"Postiwch negeseuon ar Drydar ar Ddydd Gŵyl Dewi wrth ddefnyddio #iscoutcymru i’w gael i drendio (gwisgo’ch sgarff, adnewyddu’ch llw, yn falch i fod yn rhan o ScoutsCymru ayyb)"  (ar drydar yn cyfieithu - on twitter, nid in a tweet) 

3) https://blogbjmock.wordpress.com/2015/04/03/addcai-ar-drydar/

"#AddCAi ar Drydar

EBRILL 3, 2015 ~ BARRINGTONJMOCK

Dyma flog cyflym i’ch hysbysu o #AddCAi.  Mae #AddCAi yn lle ar drydar i athrawon ail-iaith drafod deunyddiau a dulliau dysgu, rhannu syniadau a rhwydweithio"

4) https://twitter.com/derynbachcymru/status/766615553716973568

"Mae'r Deryn ar Drydar! Anfon mwydod difyr ataf fi, a bydd y rhai gorau yn mynd yn yr ebost wythnosol:"

5) http://www.susanelanjones.co.uk/rhy-gostus-i-ddefnyddior-gymraeg/

FOLLOW ME ON TWITTER – DILYNWCH FI AR DRYDAR

6) http://www.rhyd-y-grug.cymru/gwennol/

Cofiwch ein dilyn ar Drydar: @GwennolRYG
 
Remember to follow us on Twitter: @GwennolRYG

7) http://www.sustrans.org.uk/cy/wales/rhwydwaith-beicio-cenedlaethol/straeon-celtaidd

Cam 4: Rhannwch eich profiad.

Fel anturiaethwr go iawn peidiwch ag anghofio cofnodi’ch darganfyddiadau a’u rhannu â ni ar Drydar #CelticTales a Facebook.

sy'n cyfieithu 

"Step 4: Share your experience.

In true explorer fashion don’t forget to document your discoveries and share them with us on twitter #CelticTales and Facebook."

8) http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SportsandLeisure/Lido/Home.aspx

Dilynwch ni ar Drydar #LidoPonty

2016-09-06 14:30 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
Roedd Garry Owen yn arfer dweud “ar y trydar” ond dwi’n meddwl bod rhywun wedi’i gywiro ac nad yw’n gwneud bellach - gobeithio!
Gweplyfr yw fy nghas air i yn y byd i gyd! Ych! Gwaeth na “sglods”!

Siân



On 6 Sep 2016, at 13:55, MELANIE DAVIES <melanie.translation@BTINTERNET.COM> wrote:

Ie, Geraint mai trydar yn golygu tweet nid twitter ond mae sawl un dweud 'ar y trydar'. O ran defnyddio gweplyfr a trydar (am facebook a twitter), iawn os ydych chi am eu defnyddio nhw ar lafar ond nid ar bapur. Maen nhw'n enwau swyddogol, masnachol. 

Melanie
 



On Tuesday, 6 September 2016, 13:44, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote:


Ie, enw masnachol ydyw ond mae pobl wedi cymreigio (yn answyddogol) sawl enw masnachol, onid ydynt, er enghraifft gweplyfr.

Muiris

2016-09-06 13:31 GMT+01:00 GERAINT LOVGREEN <[log in to unmask]com>:
Mae pobl yn trydar ar Twitter, yn tyden? Enw priod ydi Twitter. 

Geraint

Anfonwyd o fy ffôn-i

On 6 Sep 2016, at 12:16, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote:

Ond y broblem gyda Twiban yw bod y rhan fwyaf (hyd y gwn i) yn dweud 'trydar' yn Gymraeg ac nid Twitter onid oes ffordd creu rhywbeth gan ddefnyddio Trydar yn hytrach na 'Twitter'? 

2016-09-06 11:21 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
Dwi wedi penderfynu defnyddio "twiban” am fod yr ystyr yn gliriach.

Diolch

Siân



On 6 Sep 2016, at 11:06, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask] OM> wrote:

Cytuno Claire – ond ella fod twiban  yn swnio fel petai rhywun yn methu ynganu ‘r’? Dim gwrthwynebiad chwaith a bosib bod y cysylltiad â Twitter yn fwy clir efo’r ‘w’ nac efo’r ‘r’. Mae’n dibynnu ai eisiau pwysleisio’r ‘twitter’ neu’r ‘rhuban’ mae rhywun deud y gwir.
 
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J ISCMAIL.AC.UK] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 6 Medi 2016 11:02
At: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK
Pwnc: Re: ATB/RE: twibbon
 
Ydyn nhw? Roeddwn i’n meddwl bod pobl yn dweud eu bod nhw’n trydar ar Twitter.
 
Claire
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J ISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 06 September 2016 10:24
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK
Subject: Re: ATB/RE: twibbon
 
Mi fasa hynny'n nes ati, ddyliwn, gan mai Trydar mae pobol yn galw Twitter.
 
Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
 
2016-09-06 11:00 GMT+02:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask] om>:
Neu Truban? Trydar = ruban?

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J ISCMAIL.AC.UK] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 6 Medi 2016 09:23
At: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK
Pwnc: Re: twibbon

Mae'r we yn dweud wrthyf mai cyfuniad o 'Twitter' a 'ribbon' yw twibbon. Felly byddwn i'n ffafrio "twiban" neu 'Twiban" (gan mai cyfuniad gyda 'Twitter' ac nid 'tweet' yw'r Saesneg).

Claire

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J ISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 06 September 2016 09:08
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK
Subject: twibbon

Ydyn ni’n cyfieithu “twibbon”?
Mae’n enw brand ond dwi’m yn siŵr ai Twibbon sy’n gwneud pob twibbon.
Os ydyn ni’n ei gyfieithu “twiban” / “tryban” / “trydarban”?

Diolch

Siân