Ie, Geraint mai trydar yn golygu tweet nid twitter ond mae sawl un dweud 'ar y trydar'. O ran defnyddio gweplyfr a trydar (am facebook a twitter), iawn os ydych chi am eu defnyddio nhw ar lafar ond nid ar bapur. Maen nhw'n enwau swyddogol, masnachol. Melanie On Tuesday, 6 September 2016, 13:44, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote: Ie, enw masnachol ydyw ond mae pobl wedi cymreigio (yn answyddogol) sawl enw masnachol, onid ydynt, er enghraifft gweplyfr. Muiris 2016-09-06 13:31 GMT+01:00 GERAINT LOVGREEN <[log in to unmask]>: Mae pobl yn trydar ar Twitter, yn tyden? Enw priod ydi Twitter. Geraint Anfonwyd o fy ffôn-i On 6 Sep 2016, at 12:16, Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]> wrote: Ond y broblem gyda Twiban yw bod y rhan fwyaf (hyd y gwn i) yn dweud 'trydar' yn Gymraeg ac nid Twitter onid oes ffordd creu rhywbeth gan ddefnyddio Trydar yn hytrach na 'Twitter'? 2016-09-06 11:21 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>: Dwi wedi penderfynu defnyddio "twiban” am fod yr ystyr yn gliriach. Diolch Siân On 6 Sep 2016, at 11:06, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask] OM> wrote: Cytuno Claire – ond ella fod twiban yn swnio fel petai rhywun yn methu ynganu ‘r’? Dim gwrthwynebiad chwaith a bosib bod y cysylltiad â Twitter yn fwy clir efo’r ‘w’ nac efo’r ‘r’. Mae’n dibynnu ai eisiau pwysleisio’r ‘twitter’ neu’r ‘rhuban’ mae rhywun deud y gwir. Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J ISCMAIL.AC.UK] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards Anfonwyd: Dydd Mawrth, 6 Medi 2016 11:02 At: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK Pwnc: Re: ATB/RE: twibbon Ydyn nhw? Roeddwn i’n meddwl bod pobl yn dweud eu bod nhw’n trydar ar Twitter. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J ISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 06 September 2016 10:24 To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK Subject: Re: ATB/RE: twibbon Mi fasa hynny'n nes ati, ddyliwn, gan mai Trydar mae pobol yn galw Twitter. Anna Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste! 2016-09-06 11:00 GMT+02:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask] om>: Neu Truban? Trydar = ruban? -----Neges Wreiddiol/Original Message----- Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J ISCMAIL.AC.UK] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards Anfonwyd: Dydd Mawrth, 6 Medi 2016 09:23 At: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK Pwnc: Re: twibbon Mae'r we yn dweud wrthyf mai cyfuniad o 'Twitter' a 'ribbon' yw twibbon. Felly byddwn i'n ffafrio "twiban" neu 'Twiban" (gan mai cyfuniad gyda 'Twitter' ac nid 'tweet' yw'r Saesneg). Claire -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@J ISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 06 September 2016 09:08 To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCM AIL.AC.UK Subject: twibbon Ydyn ni’n cyfieithu “twibbon”? Mae’n enw brand ond dwi’m yn siŵr ai Twibbon sy’n gwneud pob twibbon. Os ydyn ni’n ei gyfieithu “twiban” / “tryban” / “trydarban”? Diolch Siân