Dwi wedi penderfynu defnyddio "twiban” am fod yr ystyr yn gliriach.DiolchSiânCytuno Claire – ond ella fod twiban yn swnio fel petai rhywun yn methu ynganu ‘r’? Dim gwrthwynebiad chwaith a bosib bod y cysylltiad â Twitter yn fwy clir efo’r ‘w’ nac efo’r ‘r’. Mae’n dibynnu ai eisiau pwysleisio’r ‘twitter’ neu’r ‘rhuban’ mae rhywun deud y gwir.Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK ] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 6 Medi 2016 11:02
At: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK
Pwnc: Re: ATB/RE: twibbonYdyn nhw? Roeddwn i’n meddwl bod pobl yn dweud eu bod nhw’n trydar ar Twitter.ClaireFrom: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK ] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 06 September 2016 10:24
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK
Subject: Re: ATB/RE: twibbonMi fasa hynny'n nes ati, ddyliwn, gan mai Trydar mae pobol yn galw Twitter.AnnaYe who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!Neu Truban? Trydar = ruban?
-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK ] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 6 Medi 2016 09:23
At: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK
Pwnc: Re: twibbon
Mae'r we yn dweud wrthyf mai cyfuniad o 'Twitter' a 'ribbon' yw twibbon. Felly byddwn i'n ffafrio "twiban" neu 'Twiban" (gan mai cyfuniad gyda 'Twitter' ac nid 'tweet' yw'r Saesneg).
Claire
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK ] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 06 September 2016 09:08
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK
Subject: twibbon
Ydyn ni’n cyfieithu “twibbon”?
Mae’n enw brand ond dwi’m yn siŵr ai Twibbon sy’n gwneud pob twibbon.
Os ydyn ni’n ei gyfieithu “twiban” / “tryban” / “trydarban”?
Diolch
Siân