Print

Print


Dwi wedi penderfynu defnyddio "twiban” am fod yr ystyr yn gliriach.

Diolch

Siân



On 6 Sep 2016, at 11:06, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]> wrote:

Cytuno Claire – ond ella fod twiban  yn swnio fel petai rhywun yn methu ynganu ‘r’? Dim gwrthwynebiad chwaith a bosib bod y cysylltiad â Twitter yn fwy clir efo’r ‘w’ nac efo’r ‘r’. Mae’n dibynnu ai eisiau pwysleisio’r ‘twitter’ neu’r ‘rhuban’ mae rhywun deud y gwir.
 
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 6 Medi 2016 11:02
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: twibbon
 
Ydyn nhw? Roeddwn i’n meddwl bod pobl yn dweud eu bod nhw’n trydar ar Twitter.
 
Claire
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 06 September 2016 10:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: twibbon
 
Mi fasa hynny'n nes ati, ddyliwn, gan mai Trydar mae pobol yn galw Twitter.
 
Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
 
2016-09-06 11:00 GMT+02:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>:
Neu Truban? Trydar = ruban?

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 6 Medi 2016 09:23
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: twibbon

Mae'r we yn dweud wrthyf mai cyfuniad o 'Twitter' a 'ribbon' yw twibbon. Felly byddwn i'n ffafrio "twiban" neu 'Twiban" (gan mai cyfuniad gyda 'Twitter' ac nid 'tweet' yw'r Saesneg).

Claire

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 06 September 2016 09:08
To: [log in to unmask]
Subject: twibbon

Ydyn ni’n cyfieithu “twibbon”?
Mae’n enw brand ond dwi’m yn siŵr ai Twibbon sy’n gwneud pob twibbon.
Os ydyn ni’n ei gyfieithu “twiban” / “tryban” / “trydarban”?

Diolch

Siân