Diolch Anna Dwi’n credu bod yn rhaid i mi ddefnyddio ‘optimeiddio’ yn anffodus oherwydd o ddarllen drwy’r ddogfen mae’n ymddangos fel pe bai’n derm lled dechnegol gyda phethau fel ‘how does medicines optimisation work’, ‘optimised medicinies’ ac yn y blaen. O leiaf mae’n haws, er ei fod o’n hyll! Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 26 September 2016 15:44 To: [log in to unmask] Subject: Re: Medicines Optimisation Dwi'm yn lecio 'meddyginiaethau' chwaith - be sy o'i le ar yr hen air (byrrach o lawer) moddion? Ond ta waeth am hynny. Be am 'meddyginiaethau ar eu gorau'? Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2016-09-26 16:36 GMT+02:00 Rhian Huws <[log in to unmask]>: Helo bawb Tybed oes rhywun wedi dod ar draws y term uchod? Dyma ddiffiniad: ensuring that the right patients get the right choice of medicine, at the right time. Mae ‘gwneud y gorau o feddyginiaethau’ yn eithaf hirwyntog ond dwi ddim hoff iawn o ‘optimeiddio’ chwaith! Yn ddiolchgar am unrhyw sylwadau Cofion Rhian