Print

Print


Diolch.

Y broblem dwi’n ei chael gyda “Noddwr”, “Hyrwyddwr” a “Cymwynaswr” yw ei bod yn swnio fel bod disgwyl i’r sawl a anrhydeddir wneud y pethau hynny nawr - yn hytrach na’i fod yn cael ei anrhydeddu am eu gwneud dros y blynyddoedd. (Mae’n siwr y bydd yn dal i’w gwneud ond mater o ddewis yw hynny).
Dyna pam y mae’n well ‘da fi awgrym Geraint, “Llywydd Mygedol” - ond efallai y byddai “Llywydd er Anrhydedd” yn gliriach.

Diolch i bawb am feddwl.

Siân



> On 26 Sep 2016, at 11:08, Alwyn Jones <[log in to unmask]> wrote:
> 
> Tybed fyddai 'cymwynaswr' yn addas?
> 
> Hwyl!
> Alwyn
> 
> 2016-09-26 10:37 GMT+01:00 Geraint <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>>:
> llywydd mygedol
> 
> 
> 
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>> on behalf of Sian Roberts <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>>
> Sent: 26 September 2016 09:27
> To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
> Subject: Re: patron
>  
> Swnio’n rhyfedd oedd e i mi bod rhywun yn cael ei wneud yn Noddwr er anrhydedd.
> Byddai’n gwneud mwy o synnwyr i mi bod rhywun yn cael ei anrhydeddu am fod yn noddwr dros y blynyddoedd.
> 
> Ro’n i’n gobeithio y byddai gwahaniaeth rhwng:
> 1)  A person who gives financial or other support to a person, organization, or cause. ‘a celebrated patron of the arts’ a
> 2) A distinguished person who takes an honorary position in a charity. ‘the Mental Health Foundation, of which Her Royal Highness is Patron’
> 
> Ond diolch i bawb!
> 
> Siân
> 
> 
>> On 26 Sep 2016, at 10:20, Ann Corkett <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>> 
>> Bruce yn dweud bod noddwr yn rhoi nawdd - cefnogaeth. 'does dim rhaid i'r nawdd fod yn arian (er dyna ydy'r disgwyl!)
>> Ann
>> 
>> Sent from my iPhone
>> 
>> On 26 Medi 2016, at 09:45, Sian Roberts <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>> 
>>> Beth, tybed, yw'r gair Cymraeg gorau am "patron" yn yr ystyr "a distinguished person who takes an honorary position in a charity"?
>>> 
>>> Geiriau i fynd ar blac:   I gydnabod ei wasanaeth neilltuol i'r clwb am dros drigain mlynedd, rydym yn penodi Huw Huws yn ??? Clwb Marblis Cwm-sgwt.
>>> 
>>> Dyw "noddwr" ddim yn gweithio, nag'di? 
>>> 
>>> Diolch
>>> 
>>> Siân
> 
> 
> 
> 
> -- 
> Cofion gorau
> 
> Alwyn
> 
>