Print

Print


Diolch i chi am eich help - yn enwedig Sian.

 

Fe wnaethoch chi gadarnhau yr union gymhlethdod a welwn i hefyd yn y dasg o geisio cyfieithu 'Finalist' mewn cyd-destun cystadleuaeth.

 

Er gwell neu er gwaeth (ac er y perygl o gael fy llabuddio am naill ai fy eofndra neu fy nhwpdra), rydw i wedi mentro bathu hwn am y tro:

 

'Goreuydd Addawol'

 

Erbyn y tro nesaf hwyrach y bydd rhywun wedi mireinio'r ymadrodd i fod yn rywbeth mwy derbyniol gan bawb.

 

 

Eurwyn.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 01 September 2016 20:22
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Finalist

 

Bu trafodaeth am y pwnc yng nghyd-destun Gwobrau Dewi Sant 2014 pan ddefnyddiwyd “terfynwyr”.

Doedd hwnnw ddim yn boblogaidd o gwbl.

 

Rwy’n sylwi erbyn hyn bod Gwobrau Dewi Sant yn defnyddio “teilyngwyr”.  Dwi ddim yn or-hoff o hwnnw chwaith.

Byddai’n well gen i rywbeth mwy naturiol hyd yn oed os yw’n golygu defnyddio mwy nag un gair:

 

"Un o’r goreuon"

"Yn y rownd derfynol"

"Ar y rhestr fer"

neu

"Agos at y brig”  efallai

 

Mae Term Cymru’n awgrymu y gellid defnyddio “Rhagoriaeth” mewn rhai achosion.

 

Siân

 

 

On 1 Sep 2016, at 19:40, Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote:

 

Mae ambell engraifft ar-lein o 'cystadleuwyr terfynol'. Hefyd y 'pedwar terfynol' ac ati.



Sent from my Samsung Galaxy smartphone.

 

Pump o dystystgrifau sydd gen i, i bump o gystadleuwyr  a ddaeth yn FINALIST(s) mewn cystadleuaeth; h.y., y 'goreuon' a enillodd y marciau uchaf yn y gystadleuaeth, gan lwyddo i gael eu cynnwys ar fath o 'restr fer' ('ymhlith y goreuon') ond na ddaethant (ddim yr un ohonyn nhw) i'r brig, i gipio'r unig brif wobr - sef y wobr gyntaf - yr ENILLYDD (Winner).  Dyroddir TAIR tystysgrif wahanol, at ei gilydd: un dystysgrif i'r un ENILLYDD (Winner), yna pump o dystysgrifau i'r gweddill o'r goreuon - y Finalist (Cymraeg - ? ? ? ?); a bydd pawb arall a gymerodd ran yn derbyn tystysgrif jest am fod wedi cymryd rhan, sef am fod yn ENTRANT (CYSTADLEUYDD / YMGEISYDD).

 

Pa UN gair yn y Gymraeg, plîs, allwn i ei ddefnyddio ar dystysgrif y FINALIST ?  Pe byddai'r math o air yn  gymeradwy, rhywbeth tebyg i 'Goreuwr' / 'Goreuydd' rydw i'n chwilio amdano.  Gan nad ydw i fy hun yn dilyn chwaraeon a mabolgampau (na chystadlaethau llenyddol, ac ati), wn i ddim a oes term eisoes wedi ei fathu a gaiff ei ddefnyddio'n rheolaidd yn y cyfryw feysydd.  Dydy'r geiriaduron rydw i wedi ymgynhori â nhw ddim wedi bod o ddim help i mi.  Diolch am gymorth.

 

 

Eurwyn.