Diolch yn fawr bawb.

 

Pwynt da gen ti Claire – nes i ddim meddwl am hynny hyd yn oed. Aros am ateb gan y cwsmer!

 

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 02 September 2016 10:07
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Graduate

 

Cytuno efo Claire ac Anna. A dweud y gwir dw i am fentro cyfadde fy mod wedi defnyddio 'graddedigyn' ambell waith cyn hyn. A dw i'n siŵr fy mod wedi'i ddarllen hefyd. Mae'n ymddangos ambell waith drwy gwglo (ond nid mewn cyd-destunau sy'n rhoi llawer o hyder i rywun rhaid cyfadde).

Dw i'n gwybod y bydd yn ddiarth i ddechrau, ond dw i'n meddwl bod ei angen, ac mae 'graddedigion' yn ddigon cyfarwydd.

 

Osian




Ar 2 Medi 2016 am 09:48, anna gruffydd <[log in to unmask]> ysgrifennodd:

Dwi'n meddwl ers talwm fod angen yr unigol. Dydi graddedigion ddim bob amsar yn dorfol, debyg. Mae'n hurt bost na dydi'r gair graddedigyn ddim yn bod. Allwn ni mo'i fathu fo?

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2016-09-02 10:45 GMT+02:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:

Dwi ddim yn gwybod ai pobl â gradd mewn Marchnata ydyn nhw, o angenrheidrwydd. Ydi pobl sydd â gradd mewn pynciau eraill yn cael lleoedd ar gynlluniau i raddedigion ym maes marchnata? A fyddai’n cwsmer yn gallu dweud?

 

Dyw’r lluosog ddim yn broblem.  Mae angen y gair ‘graddedigyn’, on’d oes?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 02 September 2016 08:58
To: [log in to unmask]
Subject: Graduate

 

Helo

Tybed oes gan rhywun ffordd gryno y gyfieithu ‘Graduate’ yn Gymraeg?

 

Teitl swydd sydd gen – Marketing Graduate – felly does dim modd defnyddio’r triciau arferol i ddod rownd y peth.

 

Beryg y bydd rhaid rhoi rhywbeth fel ‘Swyddog â Gradd mewn Marchnata’?

Diolch yn fawr

 

Rhian