beth am 'hafod'
Dwi ddim yn amau bod yr un dan sylw’n weddol grand. ‘Caban haf’ amdani, dwi’n meddwl.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
On Behalf Of MELANIE DAVIES
Sent: 20 September 2016 11:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: summerhouse
Hoffi Caban Haf. Yn bersonol, falle oherwydd rhesymau tafodieithol, mae cwt yn gwneud imi feddwl am gartref i anifail. Sori!!
On Tuesday, 20 September 2016, 11:29, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
Cwt haf?
On 20/09/2016 11:16, Sian Roberts wrote:
Fyse “caban haf” yn gweithio?
Siān
On 20 Sep 2016, at 11:11, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:
Mewn gardd – “a small building in a garden used for sitting in during the summer”.
Mae GyrA yn rhoi “tŷ haf, hafdy”, ond i mi ‘holiday cottage’ yw ‘tŷ haf’.
Beth mae pobl yn ei ddefnyddio, tybed?
Claire
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.