Rwy'n credu fy mod i wedi dod i ben â'r lleill (gobeithio ta beth!!). Nid oedd pob jôc yn enghraifft o chwarae ar eiriau ac nid oedd pob un yn defnyddio geirfa benodol i'r pwnc. Yr enghraifft dan sylw oedd yr un mwyaf anodd!! Rwy'n credu mai'r bwriad pennaf yw ysgafnhau'r wers a rhoi tasg i'r plant o greu ambell i jôc eu hunain.

Diolch
Melanie 
 
Melanie Davies 
Cyfieithydd / Translator 
01239 621329 / 07779 207357 
Oriau gwaith / Hours of work: 9am - 3pm


On Thursday, 8 September 2016, 11:24, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:


Sori, 'roedd yr ateb hwnnw'n rhy fyrbwyll. Ond dywedsoch fod *tudalen* o jocs. Oedd y llall yn ddigon hawdd eu cyfieithu? Oes rhaid iddyn nhw ymwneud a rhyw agwedd ar wyddoniaeth? Oes rhaid iddyn nhw i gyd ymwneud a chwarae ar eiriau. Mae bai ar y cwsmer os yw'n meddwl bod chwarae ar eiriau'n mynd i gyfieithu'n hawdd iawn.
Ann

On 08/09/2016 11:12, MELANIE DAVIES wrote:
Rwy'n cymryd mai mewn un iaith fydd y pwnc yn cael ei addysgu. Does dim rhaid i'r jôc fod yr un fath ond nid comedïwr mohonof a dydw i ddim yn arbenigwr ar wyddoniaeth i greu rhai gwreiddiol!  On i'n crafu mhen yn ceisio meddwl am rywbeth neithiwr!!

Wnai ddefnyddio cynnig Huw. Mae'n un da iawn.

Diolch i bawb am eu sylwadau
Melanie
 



On Thursday, 8 September 2016, 11:05, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:


On inna'n meddwl cynnig bathu joc wreiddiol. (Raddyr iw ddan mi!)

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2016-09-08 12:03 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
Oes RHAID cael yr un joc yn y ddwy iaith? (Ai deunydd dwyieithog fydd hwn, ynteu deunydd Cymraeg a deunydd Saesneg ar wahan?) Oni fyddai'r cwsmer yn fodlon ar jocs gwreiddiol o'r un fath yn Gymraeg (wedyn byddai'r Cymry bach yn cael dwy joc am bris un, yn lle rhai Saesneg wedi'u glastwreiddio)?
Ann

On 08/09/2016 09:52, MELANIE DAVIES wrote:
Annwyl Gyfeillion,

Rwy'n gweithio ar ddeunyddiau i blant ysgol ar hyn o bryd ac mae tudalen o jôcs lle ceir rhywfaint o chwarae ar eiriau.

A all unrhyw un gynnig ffordd o aralleirio hwn?

Police arrested two kids yesterday, one was drinking battery acid, the other was eating fireworks....They charged one and let the other one off.

Diolch am unrhyw awgrymiadau!!!

Melanie
 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2016.0.7752 / Virus Database: 4649/12969 - Release Date: 09/08/16




No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2016.0.7752 / Virus Database: 4649/12969 - Release Date: 09/08/16