Print

Print


Yn achos llawer o elusennau mae ’na ‘patron’ a ‘president’.

Er enghraifft, Cyfeillion Cerdd Ieuenctid Gwyneded – Noddwr: Karel Lek, Llywydd Anrhydeddus: Bryn Terfel (‘Sponsor’ ac ‘Honorary President’ yn Saesneg).

Claire


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 26 September 2016 11:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: patron

Diolch.

Y broblem dwi’n ei chael gyda “Noddwr”, “Hyrwyddwr” a “Cymwynaswr” yw ei bod yn swnio fel bod disgwyl i’r sawl a anrhydeddir wneud y pethau hynny nawr - yn hytrach na’i fod yn cael ei anrhydeddu am eu gwneud dros y blynyddoedd. (Mae’n siwr y bydd yn dal i’w gwneud ond mater o ddewis yw hynny).
Dyna pam y mae’n well ‘da fi awgrym Geraint, “Llywydd Mygedol” - ond efallai y byddai “Llywydd er Anrhydedd” yn gliriach.

Diolch i bawb am feddwl.

Siân



On 26 Sep 2016, at 11:08, Alwyn Jones <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> wrote:

Tybed fyddai 'cymwynaswr' yn addas?

Hwyl!
Alwyn

2016-09-26 10:37 GMT+01:00 Geraint <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>>:
llywydd mygedol

________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> on behalf of Sian Roberts <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>>
Sent: 26 September 2016 09:27
To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Subject: Re: patron

Swnio’n rhyfedd oedd e i mi bod rhywun yn cael ei wneud yn Noddwr er anrhydedd.
Byddai’n gwneud mwy o synnwyr i mi bod rhywun yn cael ei anrhydeddu am fod yn noddwr dros y blynyddoedd.

Ro’n i’n gobeithio y byddai gwahaniaeth rhwng:
1)  A person who gives financial or other support to a person, organization, or cause. ‘a celebrated patron of the arts’ a
2) A distinguished person who takes an honorary position in a charity. ‘the Mental Health Foundation, of which Her Royal Highness is Patron’

Ond diolch i bawb!

Siân


On 26 Sep 2016, at 10:20, Ann Corkett <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> wrote:

Bruce yn dweud bod noddwr yn rhoi nawdd - cefnogaeth. 'does dim rhaid i'r nawdd fod yn arian (er dyna ydy'r disgwyl!)
Ann

Sent from my iPhone

On 26 Medi 2016, at 09:45, Sian Roberts <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> wrote:


Beth, tybed, yw'r gair Cymraeg gorau am "patron" yn yr ystyr "a distinguished person who takes an honorary position in a charity"?

Geiriau i fynd ar blac:   I gydnabod ei wasanaeth neilltuol i'r clwb am dros drigain mlynedd, rydym yn penodi Huw Huws yn ??? Clwb Marblis Cwm-sgwt.

Dyw "noddwr" ddim yn gweithio, nag'di?

Diolch

Siân




--
Cofion gorau

Alwyn

[http://i.imgur.com/CuRGeQ5.jpg]