Pnawn da,
Mae gen i derm sy’n achosi dipyn o benbleth i mi. Tybed beth yw eich barn chi am gyfieithu’r term ‘Future Replacement Programme’ sy’n ymwneud â’r maes tai cymdeithasol (e.e. gosod cegin newydd ac ati)?
Dyma’r term yn ei gyd-destun: “… and your replacements will be included in our future replacement programme.”
Y gair ‘future’ sy’n cymhlethu pethau braidd. Dyma rai o fy nghynigion i:
… yn ein rhaglen ailosod yn y dyfodol
… yn ein rhaglen ailosod i ddod
… yn ein rhaglen waith ar gyfer y dyfodol
Diolch yn fawr,
Awel
Awel Jones |
|
Cyswllt/Contact 54 Stryd Y Dyffryn, Dinbych, LL16 3BW DX: 23288 DENBIGH |
Cyswllt/Contact [log in to unmask] Ffôn/Phone: 0300 111 2122 Ffacs/Fax: 0300 111 2123 |
Cyfryngau Cymdeithasol/Social Media twitter.com/Grwp_Cynefin facebook.com/GrwpCynefin |
Ysgrifennwch ataf yn Gymraeg neu Saesneg Write to me in Welsh or English grwpcynefin.org |
Mae Grŵp Cynefin yn gymdeithas dai elusennol a gofrestrwyd o dan y Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014. |