[log in to unmask]" type="cite">Beth am Llywydd Anrhydeddus?
Sent from my iPhoneDiolch.
Y broblem dwi’n ei chael gyda “Noddwr”, “Hyrwyddwr” a “Cymwynaswr” yw ei bod yn swnio fel bod disgwyl i’r sawl a anrhydeddir wneud y pethau hynny nawr - yn hytrach na’i fod yn cael ei anrhydeddu am eu gwneud dros y blynyddoedd. (Mae’n siwr y bydd yn dal i’w gwneud ond mater o ddewis yw hynny).Dyna pam y mae’n well ‘da fi awgrym Geraint, “Llywydd Mygedol” - ond efallai y byddai “Llywydd er Anrhydedd” yn gliriach.
Diolch i bawb am feddwl.
Siân
On 26 Sep 2016, at 11:08, Alwyn Jones <[log in to unmask]> wrote:
Tybed fyddai 'cymwynaswr' yn addas?
Hwyl!Alwyn
2016-09-26 10:37 GMT+01:00 Geraint <[log in to unmask]>:
llywydd mygedol
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK > on behalf of Sian Roberts <[log in to unmask]>
Sent: 26 September 2016 09:27
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: patronSwnio’n rhyfedd oedd e i mi bod rhywun yn cael ei wneud yn Noddwr er anrhydedd.Byddai’n gwneud mwy o synnwyr i mi bod rhywun yn cael ei anrhydeddu am fod yn noddwr dros y blynyddoedd.
Ro’n i’n gobeithio y byddai gwahaniaeth rhwng:1) A person who gives financial or other support to a person, organization, or cause. ‘a celebrated patron of the arts’ a2) A distinguished person who takes an honorary position in a charity. ‘the Mental Health Foundation, of which Her Royal Highness is Patron’
Ond diolch i bawb!
Siân
On 26 Sep 2016, at 10:20, Ann Corkett <00000b3c25d9559d-dmarc-[log in to unmask] > wrote:
Bruce yn dweud bod noddwr yn rhoi nawdd - cefnogaeth. 'does dim rhaid i'r nawdd fod yn arian (er dyna ydy'r disgwyl!)
Ann
Sent from my iPhone
On 26 Medi 2016, at 09:45, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:
Beth, tybed, yw'r gair Cymraeg gorau am "patron" yn yr ystyr "a distinguished person who takes an honorary position in a charity"?
Geiriau i fynd ar blac: I gydnabod ei wasanaeth neilltuol i'r clwb am dros drigain mlynedd, rydym yn penodi Huw Huws yn ??? Clwb Marblis Cwm-sgwt.
Dyw "noddwr" ddim yn gweithio, nag'di?
Diolch
Siân
--
Cofion gorau
Alwyn