Print

Print


Dwi'n hoffi "Cymwynaswr" - i fi mae'n cyfleu rhywbeth gwahanol i 
"Noddwr" neu "Hyrwyddwr" ac yn awgrymu bod y person dan sylw wedi bod yn 
gymwynaswr yn hytrach na bod disgwyl iddo/iddi wneud unrhyw beth.

Geraint

On 26/09/2016 11:41, Non Richards wrote:
> Beth am Llywydd Anrhydeddus?
>
> Sent from my iPhone
>
> On 26 Sep 2016, at 11:27, Sian Roberts <[log in to unmask] 
> <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>
>> Diolch.
>>
>> Y broblem dwi’n ei chael gyda “Noddwr”, “Hyrwyddwr” a “Cymwynaswr” yw 
>> ei bod yn swnio fel bod disgwyl i’r sawl a anrhydeddir wneud y pethau 
>> hynny nawr - yn hytrach na’i fod yn cael ei anrhydeddu am eu gwneud 
>> dros y blynyddoedd. (Mae’n siwr y bydd yn dal i’w gwneud ond mater o 
>> ddewis yw hynny).
>> Dyna pam y mae’n well ‘da fi awgrym Geraint, “Llywydd Mygedol” - ond 
>> efallai y byddai “Llywydd er Anrhydedd” yn gliriach.
>>
>> Diolch i bawb am feddwl.
>>
>> Siân
>>
>>
>>
>>> On 26 Sep 2016, at 11:08, Alwyn Jones <[log in to unmask] 
>>> <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>>>
>>> Tybed fyddai 'cymwynaswr' yn addas?
>>>
>>> Hwyl!
>>> Alwyn
>>>
>>> 2016-09-26 10:37 GMT+01:00 Geraint <[log in to unmask] 
>>> <mailto:[log in to unmask]>>:
>>>
>>>     llywydd mygedol
>>>
>>>
>>>
>>>     ------------------------------------------------------------------------
>>>     *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
>>>     vocabulary <[log in to unmask]
>>>     <mailto:[log in to unmask]>> on behalf of Sian
>>>     Roberts <[log in to unmask]
>>>     <mailto:[log in to unmask]>>
>>>     *Sent:* 26 September 2016 09:27
>>>     *To:* [log in to unmask]
>>>     <mailto:[log in to unmask]>
>>>     *Subject:* Re: patron
>>>     Swnio’n rhyfedd oedd e i mi bod rhywun yn cael ei wneud yn
>>>     Noddwr er anrhydedd.
>>>     Byddai’n gwneud mwy o synnwyr i mi bod rhywun yn cael ei
>>>     anrhydeddu am fod yn noddwr dros y blynyddoedd.
>>>
>>>     Ro’n i’n gobeithio y byddai gwahaniaeth rhwng:
>>>     1)  A person who gives financial or other support to a person,
>>>     organization, or cause. /‘a celebrated patron of the arts’ a/
>>>     2) A distinguished person who takes an honorary position in a
>>>     charity. /‘the Mental Health Foundation, of which Her Royal
>>>     Highness is Patron’/
>>>
>>>     Ond diolch i bawb!
>>>
>>>     Siân
>>>
>>>
>>>>     On 26 Sep 2016, at 10:20, Ann Corkett
>>>>     <[log in to unmask]
>>>>     <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>>>>
>>>>     Bruce yn dweud bod noddwr yn rhoi nawdd - cefnogaeth. 'does dim
>>>>     rhaid i'r nawdd fod yn arian (er dyna ydy'r disgwyl!)
>>>>     Ann
>>>>
>>>>     Sent from my iPhone
>>>>
>>>>     On 26 Medi 2016, at 09:45, Sian Roberts
>>>>     <[log in to unmask]
>>>>     <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>>>>
>>>>>     Beth, tybed, yw'r gair Cymraeg gorau am "patron" yn yr ystyr
>>>>>     "a distinguished person who takes an honorary position in a
>>>>>     charity"?
>>>>>
>>>>>     Geiriau i fynd ar blac:   I gydnabod ei wasanaeth neilltuol
>>>>>     i'r clwb am dros drigain mlynedd, rydym yn penodi Huw Huws yn
>>>>>     ??? Clwb Marblis Cwm-sgwt.
>>>>>
>>>>>     Dyw "noddwr" ddim yn gweithio, nag'di?
>>>>>
>>>>>     Diolch
>>>>>
>>>>>     Siân
>>>
>>>
>>>
>>>
>>> -- 
>>> Cofion gorau
>>>
>>> Alwyn
>>>
>>