This is a bilingual message - Please see below for English version / Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg
 
 
Rheolaeth ariannol – deall cyllidebau a gofynion ar gyfer creu incwm
 
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei roi drwy gyfrwng y Saesneg.
 
Y dyddiau hyn mae hi’n fwyfwy anodd i sefydliadau gadw eu pennau uwchben y dŵr. Mae dau beth yn gwbl allweddol ar gyfer llwyddo – creu incwm a rheoli cyllidebau’n effeithiol.  
Hoffai’r Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd wahodd pobl i fynegi diddordeb mewn hyfforddiant ynghylch Rheolaeth Ariannol. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys y canlynol;
 
 
Os hoffech ddod i’r sesiwn hyfforddi hon, dylech anfon y manylion isod ataf erbyn Medi 30, 2016 fan bellaf.
 
 
  1. Ydych chi’n derbyn gwybodaeth am gyllidebau ar hyn o bryd? Os ydych, pa wybodaeth rydych yn ei derbyn ac ar ba ffurf y mae hi?
 
  1. Pa mor hyderus ydych chi eich bod yn darllen yr wybodaeth yr ydych yn ei derbyn ac yn gwybod pa wybodaeth y dylech ofyn amdani er mwyn gallu monitro’n effeithiol wahanol risgiau ariannol eich sefydliad?
 
  1. Fyddech chi’n hapus/fodlon i ddod ag enghreifftiau o’r hyn yr ydych chi/y mae eich sefydliad yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd i ddarllen neu lunio gwybodaeth am gyllidebau?
 
  1. Fyddai gennych ddiddordeb mewn dysgu rhagor am greu incwm, gan gynnwys y gwahanol ddulliau a’r rheolau a’r rheoliadau ynghylch incwm masnachu?
 
  1. Ydy eich sefydliad wedi cofrestru ar gyfer TAW?  
 
Atebwch y cwestiynau uchod, gan roi cymaint â phosibl o fanylion.
 
 
 
Financial management – understanding budgets and requirements for income generation
 
This training will be delivered through the medium of English.
 
These days many organisations are finding it harder and harder to keep afloat.  Two things are vital to success – income generation and effective budget management. 
MALD is looking for expressions of interest for Financial Management training potentially covering the following areas;
 
 
If you would like to attend this training advise me by providing the following details no later than 30th September 2016
 
 
  1. Do you currently receive budget information and, if so, what information do you receive and in what format?
 
  1. How confident are you at reading the information you receive and do you know what information to ask for to effectively monitor the various financial risks of your organisation?
 
  1. Would you be happy/able to bring examples of what you/your organisation currently uses to read or produce budget information?
 
  1. Would you be interested in learning more about generating income including the different methods and the rules and regulations relating to trading income?
 
  1. Is your organisation VAT registered?  
 
Please answer the questions above in as much detail as possible.
 
 
Tîm Datblygu'r Gweithlu – Workforce Development Team
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Welsh Government
Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
Ffon/Tel: 0300 062 2112
http://www.wales.gov.uk/cymal
 
 
 
 

On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.