Print

Print


This is a bilingual message - Please see below for English version / Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg
 
 
Sgiliau Cyfathrebu Effeithiol
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno
17 Tachwedd 2016
 
 
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei roi drwy gyfrwng y Saesneg.
 
Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, yn rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae'n addas ar gyfer y rheini sydd am wella a datblygu eu sgiliau cyfathrebu.
 
Nod
Rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i bobl fedru gwella’u sgiliau cyfathrebu.
 
Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy’n dilyn y cwrs yn gallu
 
Paratoi
Dewch â’ch enghreifftiau/profiadau eich hun o adegau pan gawsoch drafferth i gyfathrebu’n effeithiol er mwyn ichi fedru gweithio arnynt yn ystod y dydd! 
 
Hyfforddwr
The Really Amazing
Rydym yn helpu pobl a busnesau i fod yn Wirioneddol Anhygoel drwy’n ffordd unigryw o ddatblygu pobl yn bersonol ac yn broffesiynol. Byddwn yn eich helpu i lwyddo, i bennu cyfeiriad, i wireddu’ch potensial, i oresgyn rhwystrau ac i wella’ch perfformiad.
 
Datganiad o ddiddordeb
 
I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma llenwch y ffurflen amgaeedig a’i dychwelyd i [log in to unmask].
 
 
Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.
 
 
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Seaneen McGrogan ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask] neu ffoniwch 0300 062 2261 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
 
Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
 
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
 
 
Effective Communication Skills
Welsh Government Office Llandudno Junction
17th November 2016
 
 
This training will be delivered through the medium of English
 
This free course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales. It is suitable for those who wish to improve and build upon their existing communication skills.
 
Aim
To provide people with the skills and underpinning knowledge to improve their communication skills.
 
By the end of the course participants will be able to
 
Preparation
Bring your own examples/experiences of times when you have struggled to communicate effectively with you to work on during the day!    
 
Trainer
The really Amazing
In a nutshell we help people and businesses become Really Amazing with our unique approach to personal and professional development. We will help you to become successful, set direction, release potential, overcome challenges and increase performance.
 
Expression of interest
 
Please express your interest in this course by completing the attached form and returning it to [log in to unmask].
 
 
Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.
 
Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Seaneen McGrogan immediately on [log in to unmask]">[log in to unmask] or 0300 062 2261 so your place can be awarded to someone on the waitlist.
 
In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.
 
All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.
 
 
Seaneen McGrogan
Swyddog Casgliadau, Safonau a hyfforddiant
Collections, Standards and Training Officer
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Department for Economy, Science and Transport
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261
 

 
 
 

On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.