Print

Print


Ni welais gyfieithiad o Landranger erioed ar fapiau nac ar yr ychydig o Gymraeg ar dudalennau gwefan OS:
"Mae pob modfedd sgwâr ym Mhrydain Fawr wedi’i chynnwys, dangosir bob tirnod a nodwedd yn y dirwedd yn fanwl iawn yn y mapiau sydd ar gael mewn amrywiaeth o raddfeydd. Os ydych yn hoffi cerdded, rhedeg, beicio neu farchogaeth, mae’r raddfa 1: 25 000 (Explorer yr AO) yn berffaith ar eich cyfer. Os ydych eisiau cynllunio eich diwrnodau allan o flaen llaw, mae’r raddfa 1: 50 000 (Landranger yr AO) yn ddelfrydol."

Hwyl



2016-08-19 10:45 GMT+01:00 David Bullock <[log in to unmask]>:

Dim ond 'Landranger' sydd ar y mapiau yn y gyfres honno sy gen i fan hyn , e.e.

 

"Ordnance Survey

Landranger 170

Vale of Glamorgan & Rhondda area

Bro Morgannag a'r Rhondda"

 

Enw'r gyfres yw e felly, am wn i, ac mae ganddyn nhw gyfres arall o'r enw Explorer, sy'n ymddangos fel "ExplorerTM" ar y clawr.

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Bethan Jones
Sent: 19 Awst 2016 10:06
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Landranger

 

Oes ‘na enw Cymraeg ar hwn – Landranger – un o fapiau’r Arolwg Ordnans?

Gyda diolch

Cofion
Bethan
[log in to unmask]
Skype: bethan.wyn.jones.talwrn
Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF
Blog: http://bydnaturbethan.blogspot.co.uk
Trydar: @BethanWynJones1




--
Cofion gorau

Alwyn