Print

Print


Licio hwn ond tybed a allai greu’r argraff bod rhywun yn dod â pherthynas i ben am fod y cariad yn smocio?

Un o’r diwrnodau ‘na!

Siân
> On 16 Aug 2016, at 12:13, GERAINT LOVGREEN <[log in to unmask]> wrote:
> 
> Paid tanio ffag, pacia dy fag!
> 
> Geraint
> 
> Anfonwyd o fy ffôn-i
> 
> On 16 Aug 2016, at 11:13, Sian Roberts <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
> 
>> Fydden ni ddim yn dweud “Ble” yn y de chwaith. “Le fuest ti?”
>> Felly mater o ddewis rhwng dwy dafodiaith sy’n cael eu defnyddio a gair niwtral nad yw’n cael ei ddefnyddio yn naturiol - am wn i!
>> 
>> Siân
>> 
>> 
>>> On 16 Aug 2016, at 10:43, anna gruffydd <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>>> 
>>> Ia, ond mae'n dibynnu ar y gynulleidfa, decini - yn y gogledd dan ni byth yn deud ble - fath ag 'adref' a 'gartref' - yn y de a'r gogledd mi wyddon ni'u bod nhw'n golygu dau beth gwahanol ond ar lafar mae un yn golygu'r ddau beth yn y gog a'r llall yn golygu'r ddau beth yn y de.
>>> 
>>> Anna
>>> 
>>> Ye who opt for cut'n'paste
>>> Tread with care and not in haste!
>>> 
>>> 2016-08-16 11:29 GMT+02:00 Eurwyn Pierce Jones <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>>:
>>> 'BLE wnewch chi lanio?'       Plîs    -   ddim 'Lle ... ' !   Ble... ? (<  Pa le ... ?) yw ffurf y cwestiwn yn y Gymraeg!
>>> 
>>>  
>>> 
>>> ... lle ...           =          '... place ...'
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Lle ...               =          ' ... place.'
>>> 
>>>  
>>> 
>>> ... ble ... ?      =          '... where ... ?
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Ble ... ?           =          'Where ... ?
>>> 
>>>  
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Eurwyn
>>> 
>>>  
>>> 
>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>] On Behalf Of Sian Roberts
>>> Sent: 16 August 2016 09:30
>>> To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>
>>> Subject: Re: Don't light, get a flight
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Cynnig sydyn
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Peidiwch tanio. Lle wnewch chi lanio?
>>> 
>>>  
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Siân
>>> 
>>>  
>>> 
>>> (Ydi hi’n dderbyniol hepgor yr “â” 
>>> 
>>> On 16 Aug 2016, at 09:19, Rhian Huws <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>> wrote:
>>> 
>>>  
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Bore Da Gyfeillion
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Dyma deitl ymgyrch i annog pobl i roi’r gorau i Smygu a mynd ar wyliau gyda’r arian y byddan nhw’n ei arbed. Y cynnig gorau sydd gennym hyd yma yw:
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Peidiwch â chynnau, ewch ar wyliau
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Oes gan unrhyw un fwy o ysbrydioliaeth na fi tybed?
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Diolch yn fawr
>>> 
>>>  
>>> 
>>> Rhian
>>> 
>>>  
>>> 
>>> 
>>