Mae'n debyg nad yw Seiat Sillaf ddim yn ddisgrifiad cywir iawn.

Ann


On 15/08/2016 13:48, GERAINT LOVGREEN wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Her Sillafu yn gynnig da yn fy marn i. Be di rhesymeg y brandio Saesneg tybed?

Geraint

Anfonwyd o fy ffôn-i

On 15 Aug 2016, at 11:03, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:

Mae’n ymddangos ei fod yn rhyw fath o enw brand:
http://spellingbeecymru.co.uk/cym/index.html
Croeso i wefan swyddogol Llwybrau at Ieithoedd Cymru ar gyfer Cystadleuaeth Genedlaethol y Spelling Bee i Flwyddyn 7. 
Felly byddwn i’n defnyddio “Spelling Bee” mewn cyd-destun swyddogol felly neu os ydych am gyfleu naws y gymdeithas ddiwylliadol yn y festri slawer dydd.  

Siân

On 15 Aug 2016, at 10:55, Osian Rhys <[log in to unmask]> wrote:

Does gen i ddim awgrym mae'n ddrwg gen i, ond well gen i 'cystadleuaeth sillafu' na dweud 'spelling bee' yn Gymraeg.

Osian



Ar 15 Awst 2016 am 10:42, Sian Roberts <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
“Spelling Bee” dwi wedi’i glywed yn Gymraeg - mewn rhyw gystadlaethau yn y capel ac ati ac mae Google yn dod o hyd i lawer o enghreifftiau yn Gymraeg.

Siân

> On 14 Aug 2016, at 22:15, Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> wrote:
>
> Ai 'cystadleuaeth sillafu' ydy hyn? Ynteu a oes rhywbeth mwy penodol?
>
>
>
> Sent from my Samsung Galaxy smartphone.


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2016.0.7752 / Virus Database: 4647/12812 - Release Date: 08/15/16