Annwyl Branwen, Gobeithio bydd yr enwau ar gael cyn diwedd y prynhawn, wedi i Duncan Brown ymgynghori a rhyw arbenigwr. Y drafferth yw, ychydig iawn o fanylion sydd ar gael yn hawdd ynghylch y rhywiogaethau hyn, ac nid yw'n ddigon i gyfieithu e.e. turf-moss heb wybod a ydy o'n tyfu *yn debyg i* dyweirch ynteu *yn* y tyweirch. Yn yr un modd, ydy river-moss yn tyfu yn yr afon ynteu ar lan yr afon? Ydy pocket-moss yn golygu ei fod yn ffurfio pocedi, ynteu ydy o'n fechan iawn (megis "pocket Venus" am ferch fechan hardd). Mae'n bosibl, meddai Duncan, y bydd yn rhaid cynnig yr enwau ichi gyda "health warning", fel atebion dros dro nes i'r tim ddelio a'r mwsoglau i gyd fel y maen nhw newydd ei wneud efo'r ffyngau. Ann On 10/08/2016 21:30, Branwen Gwyn wrote: > Chwilio am gyfieithiad i'r rhywiogaethau canlynol, os gwelwch yn dda: > Little shaggy-moss > Straggling pouchwort > Scarce turf-moss > Heller's notchwort > Autumn flapwort > Fox-tail feather-moss > River pocket-moss > Beck pocket-moss > Hutchin's hollywort > > Diolch yn fawr o flaen llaw! > > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2016.0.7752 / Virus Database: 4633/12785 - Release Date: 08/10/16 > > >