Beth am gacen briwlan lemwn. Sent from my iPhone > On 27 Jul 2016, at 11:53, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote: > > Ie - sgeintio rhywbeth sych mae rhywun dwi’n meddwl. > > Mae drizzle tua hanner ffordd rhwng diferu ac arllwys. > > Dydi “cacen lemon laith” ddim yn gweithio chwaith - treio cyfleu “moist”. > Mae “cacen lemon glatsh” yn dda ond braidd yn lleol a bosib yn rhy wlyb. > > >> On 27 Jul 2016, at 11:40, Sian Reeves <[log in to unmask]> wrote: >> >> >> Diolch. Dwi'n hoffi'r syniad o gyfleu natur y deisen - 'lemwn trwyddi' - yn hytrach na cheisio cael gair am 'drizzle'. >> >> O ran 'sgeintio' roedd f'athrawes goginio yn defnyddio'r gair hwnnw ar gyfer 'sift' a 'rhidyll' neu 'sgeintiwr' ar gyfer 'sieve' yn y 1970au - dwi ddim yn gwybod a oedd hynny'n gywir ai peidio ond roedd yn gyfnod o fathu termau addysgu coginio. Dwi heb ddod ar draws y gair ers hynny ond mae'n sicr yn cyfleu'r weithred o daenu dros arwyneb/gwrthrych, ond yn yr ystyr o 'scatter' yn hytrach na 'drizzle' dwi'n meddwl, ond dwi'n barod i gael fy nghywiro. >> >> Siân >> >> >> >> >> On Tuesday, 26 July 2016, 11:04, MELANIE DAVIES <[log in to unmask]> wrote: >> >> >> Lemwn trwyddi? Fel arfer ma croen y lemwn yn y gacen a'r sudd a siwgr ar y top yn suddo i lawr i'r gacen. >> >> >> >> >> On Tuesday, July 26, 2016 10:55 AM, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote: >> >> >> Ydi o'r un peth â "sgeintio" ? >> >>> On 26/07/2016 10:21, Sian Reeves wrote: >>> >>> ...ac mae'r eisin yna'n trwytho'r deisen (drizzle) a'i chadw'n glats, tra bo eisin ar 'iced lemon' yn sychu'n haenen blasus ar dop y gacen. Eisin yw'r ddau ond mae'r canlyniadau'n wahanol. >>> >>> >>> On Tuesday, 26 July 2016, 10:11, MELANIE DAVIES <[log in to unmask]> wrote: >>> >>> >>> Rwy'n cymysgu sudd lemwn a siwgr ac yn tywallt y cyfan ar ben y gacen tra bydd hi dal yn gynnes - rhywun eisiau darn? >>> >>> Melanie >>> >>> >>> >>> >>> On Tuesday, July 26, 2016 10:00 AM, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote: >>> >>> >>> Onid yw’r “drizzle” yn cyfeirio at ddiferu/arllwys eisin gwlyb dros y gacen? >>> >>> Siân >>> >>>> On 26 Jul 2016, at 09:17, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote: >>>> >>>> Tybed oes angen y ‘drizzle’ o gwbl yn y Gymraeg. Oni fyddai ‘teisen lemwn’ yn ddigon? >>>> >>>> Gan fy mod wedi samplu’r rhain yn helaeth dros y blynyddoedd mae, ‘na eisin ar rai ohonyn nhw (Marks and Spencers) ond nid ar eraill. >>>> >>>> Rhian >>>> >>>> >>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Reeves >>>> Sent: 26 July 2016 08:05 >>>> To: [log in to unmask] >>>> Subject: drizzle (coginio) >>>> >>>> Lemon Drizzle Cake >>>> >>>> Mae Teisen Diferion Lemwn yn y cofnodion (2011). Oes yna unrhyw beth arall wedi ennill ei blwy' ers hynny? >>>> >>>> Diolch >>>> >>>> Siân >