Lemwn trwyddi? Fel arfer ma croen y lemwn yn y gacen a'r sudd a siwgr ar y top yn suddo i lawr i'r gacen.On Tuesday, July 26, 2016 10:55 AM, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:
Ydi o'r un peth â "sgeintio" ?
On 26/07/2016 10:21, Sian Reeves wrote:...ac mae'r eisin yna'n trwytho'r deisen (drizzle) a'i chadw'n glats, tra bo eisin ar 'iced lemon' yn sychu'n haenen blasus ar dop y gacen. Eisin yw'r ddau ond mae'r canlyniadau'n wahanol.On Tuesday, 26 July 2016, 10:11, MELANIE DAVIES mailto:[log in to unmask] wrote:
Rwy'n cymysgu sudd lemwn a siwgr ac yn tywallt y cyfan ar ben y gacen tra bydd hi dal yn gynnes - rhywun eisiau darn?MelanieOn Tuesday, July 26, 2016 10:00 AM, Sian Roberts mailto:[log in to unmask] wrote:
Onid yw’r “drizzle” yn cyfeirio at ddiferu/arllwys eisin gwlyb dros y gacen?SiânOn 26 Jul 2016, at 09:17, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:Tybed oes angen y ‘drizzle’ o gwbl yn y Gymraeg. Oni fyddai ‘teisen lemwn’ yn ddigon?Gan fy mod wedi samplu’r rhain yn helaeth dros y blynyddoedd mae, ‘na eisin ar rai ohonyn nhw (Marks and Spencers) ond nid ar eraill.RhianFrom: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Reeves
Sent: 26 July 2016 08:05
To: [log in to unmask]
Subject: drizzle (coginio)Lemon Drizzle CakeMae Teisen Diferion Lemwn yn y cofnodion (2011). Oes yna unrhyw beth arall wedi ennill ei blwy' ers hynny?DiolchSiân