Print

Print


Cytuno Siân. Dwi’n defnyddio sgeintio hefo stwff fel siwgr neu flawd ond dwi’n meddwl mai diferu’r lemwn y baswn i.


Cofion
Bethan
[log in to unmask]
Skype: bethan.wyn.jones.talwrn
Cae Chwarel, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn, LL77 7TF
Blog: http://bydnaturbethan.blogspot.co.uk 
Trydar: @BethanWynJones1 

From: Sian Reeves 
Sent: Wednesday, July 27, 2016 11:40 AM
To: [log in to unmask] 
Subject: Re: drizzle (coginio)


Diolch. Dwi'n hoffi'r syniad o gyfleu natur y deisen - 'lemwn trwyddi' - yn hytrach na cheisio cael gair am 'drizzle'. 

O ran 'sgeintio' roedd f'athrawes goginio yn defnyddio'r gair hwnnw ar gyfer 'sift' a 'rhidyll' neu 'sgeintiwr' ar gyfer 'sieve' yn y 1970au - dwi ddim yn gwybod a oedd hynny'n gywir ai peidio ond roedd yn gyfnod o fathu termau addysgu coginio. Dwi heb ddod ar draws y gair ers hynny ond mae'n sicr yn cyfleu'r weithred o daenu dros arwyneb/gwrthrych, ond yn yr ystyr o  'scatter' yn hytrach na 'drizzle' dwi'n meddwl, ond dwi'n barod i gael fy nghywiro.

Siân





On Tuesday, 26 July 2016, 11:04, MELANIE DAVIES <[log in to unmask]> wrote:




  Lemwn trwyddi? Fel arfer ma croen y lemwn yn y gacen a'r sudd a siwgr ar y top yn suddo i lawr i'r gacen.





  On Tuesday, July 26, 2016 10:55 AM, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:




  Ydi o'r un peth â "sgeintio" ?


  On 26/07/2016 10:21, Sian Reeves wrote:


    ...ac mae'r eisin yna'n trwytho'r deisen (drizzle) a'i chadw'n glats, tra bo eisin ar 'iced lemon' yn sychu'n haenen blasus ar dop y gacen. Eisin yw'r ddau ond mae'r canlyniadau'n wahanol.



    On Tuesday, 26 July 2016, 10:11, MELANIE DAVIES mailto:[log in to unmask] wrote:




      Rwy'n cymysgu sudd lemwn a siwgr ac yn tywallt y cyfan ar ben y gacen tra bydd hi dal yn gynnes - rhywun eisiau darn?

      Melanie





      On Tuesday, July 26, 2016 10:00 AM, Sian Roberts mailto:[log in to unmask] wrote:




      Onid yw’r “drizzle” yn cyfeirio at ddiferu/arllwys eisin gwlyb dros y gacen? 

      Siân

        On 26 Jul 2016, at 09:17, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

        Tybed oes angen y ‘drizzle’ o gwbl yn y Gymraeg. Oni fyddai ‘teisen lemwn’ yn ddigon?

        Gan fy mod wedi samplu’r rhain yn helaeth dros y  blynyddoedd mae, ‘na eisin ar rai ohonyn nhw (Marks and Spencers) ond nid ar eraill.

        Rhian


        From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Reeves
        Sent: 26 July 2016 08:05
        To: [log in to unmask]
        Subject: drizzle (coginio)

        Lemon Drizzle Cake

        Mae Teisen Diferion Lemwn yn y cofnodion (2011). Oes yna unrhyw beth arall wedi ennill ei blwy' ers hynny?

        Diolch

        Siân