Diolch. Dwi'n hoffi'r syniad o gyfleu natur y deisen - 'lemwn trwyddi' - yn hytrach na cheisio cael gair am 'drizzle'. 

O ran 'sgeintio' roedd f'athrawes goginio yn defnyddio'r gair hwnnw ar gyfer 'sift' a 'rhidyll' neu 'sgeintiwr' ar gyfer 'sieve' yn y 1970au - dwi ddim yn gwybod a oedd hynny'n gywir ai peidio ond roedd yn gyfnod o fathu termau addysgu coginio. Dwi heb ddod ar draws y gair ers hynny ond mae'n sicr yn cyfleu'r weithred o daenu dros arwyneb/gwrthrych, ond yn yr ystyr o  'scatter' yn hytrach na 'drizzle' dwi'n meddwl, ond dwi'n barod i gael fy nghywiro.

Siân




On Tuesday, 26 July 2016, 11:04, MELANIE DAVIES <[log in to unmask]> wrote:


Lemwn trwyddi? Fel arfer ma croen y lemwn yn y gacen a'r sudd a siwgr ar y top yn suddo i lawr i'r gacen.
 



On Tuesday, July 26, 2016 10:55 AM, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:


Ydi o'r un peth â "sgeintio" ?

On 26/07/2016 10:21, Sian Reeves wrote:
 
...ac mae'r eisin yna'n trwytho'r deisen (drizzle) a'i chadw'n glats, tra bo eisin ar 'iced lemon' yn sychu'n haenen blasus ar dop y gacen. Eisin yw'r ddau ond mae'r canlyniadau'n wahanol.


On Tuesday, 26 July 2016, 10:11, MELANIE DAVIES <[log in to unmask]> wrote:


Rwy'n cymysgu sudd lemwn a siwgr ac yn tywallt y cyfan ar ben y gacen tra bydd hi dal yn gynnes - rhywun eisiau darn?

Melanie
 



On Tuesday, July 26, 2016 10:00 AM, Sian Roberts <[log in to unmask]> wrote:


Onid yw’r “drizzle” yn cyfeirio at ddiferu/arllwys eisin gwlyb dros y gacen?

Siân

On 26 Jul 2016, at 09:17, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

Tybed oes angen y ‘drizzle’ o gwbl yn y Gymraeg. Oni fyddai ‘teisen lemwn’ yn ddigon?
 
Gan fy mod wedi samplu’r rhain yn helaeth dros y  blynyddoedd mae, ‘na eisin ar rai ohonyn nhw (Marks and Spencers) ond nid ar eraill.
 
Rhian
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Reeves
Sent: 26 July 2016 08:05
To: [log in to unmask]
Subject: drizzle (coginio)
 
Lemon Drizzle Cake
 
Mae Teisen Diferion Lemwn yn y cofnodion (2011). Oes yna unrhyw beth arall wedi ennill ei blwy' ers hynny?
 
Diolch
 
Siân