Annwyl ffrindie,
Dyma wahoddiad i chi i gyd i sesiwn yr Uned Technolegau Iaith yn Steddfod y Fenni. Eleni rydyn ni wedi cyfuno’n hymdrechion gyda’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ym Mangor – nifer o bethau’n gorgyffwrdd, felly gobeithio y cawn ni eich weld
yno am glonc a sgwrs,
Delyth
Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni
Stondin Prifysgol Bangor ar y Maes
2-5 Pnawn Llun y 1af o Awst
Y Chwyldro Digidol a’r Gymraeg
Yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithas ar y cyd gydag Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr
1.
Y Gymraeg ar lwyfannau digidol
Dr Cynog Prys gyda Shân Pritchard a Natalie Jones yn cyflwyno canlyniadau eu hymchwil PhD a noddir gan Cwmni Da ac S4C, dan raglen KESS Llywodraeth
Cymru a’r Undeb Ewropeaidd
2.
Generation Beth? (cyfres deledu S4C)
Trafodaeth dan gadeiryddiaeth Dr Cynog Prys gyda Phil Stead o Cwmni Da a Shân Pritchard ar yr arolwg o agweddau pobl ifanc ar draws Ewrop
3.
Y Dyfodol Digidol
Sesiwn gan Delyth Prys, Dr Tegau Andrews a Gruffudd Prys o’r Uned Technolegau Iaith yn dathlu’r
adnoddau terminolegol diweddaraf, cyfres e-lyfrau DECHE, ac yn cyflwyno Macsen, prototeip o’r cynorthwyydd digidol Cymraeg cyntaf, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru
4.
Gwin neu ddiod ysgafn i orffen y prynhawn.
Delyth Prys |
Delyth Prys |
Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565 Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office. |