Dw i ddim yn meddwl bod hepgor y rhagenw’n anghywir achos mae’r treiglad yn dangos ei fod yno. Carolyn Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws Anfonwyd: Dydd Iau, 21 Gorffennaf 2016 12:51 At: [log in to unmask] Pwnc: Re: Rhagenw mewnol Diolch yn fawr iawn bawb. Gwaith ar y profion Rhifedd Cenedlaethol yw hwn (dwi ddim wedi rhoi’r union eiriad am resymau amlwg), ac felly y Llywodraeth fydd yn penderfynu yn y pen draw. Felly i grynhoi, tydi hepgor y rhagenw mewnol ddim yn anghywir felly? Y broblem efo ‘sawl’ mewn nifer o achosion yw bod gen ti focs ar gyfer yr ateb Ee, Sawl pêl sydd gan Rhian? ____ pêl, ac os yw’r ateb yn 2, neu’n 6, er enghraifft, byddai rhoi ‘pêl’ yn ramadegol anghywir felly rydym wedi gorfod defnyddio brawddegau fel ‘faint o beli sydd gan Rhian?’ a rhoi ‘___ o beli’ yn y bocs ateb er mwyn osgoi hyn. Dwi’n amau a fyddai plant ym mlwyddyn 2 yn meddw am arwyddocad y treiglo, heblaw eu bod nhw’n athrylith ar ramadeg, ond byddai rhyw athro neu riant yn siŵr o gwyno! Diolch eto Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys Sent: 21 July 2016 12:03 To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Subject: Re: Rhagenw mewnol Opsiwn arall hefyd ydy "Sawl munud mae'n gymryd...". Wn i ddim ydy 'sawl' yn symlach i bawb ond dw i'n meddwl ei fod yn gyfarwydd yng nghyd-destun mathemateg yn yr ysgol. Osian Ar 21 Gorffennaf 2016 am 12:01, David Bullock <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > ysgrifennodd: Ydy rhywbeth fel 'Faint mae'n ei gymryd, mewn munudau, i deithio o Gaerdydd i Abertawe?' a 'Beth yw pwysau'n plant mewn cilogramau?' yn haws ei ddeall i blant bach blwyddyn 2? Cwmni DB Cyf. Rhif y Cwmni: 04990174 Rhif TAW: 987 2849 49 Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH Ffôn: (029) 2048 6677 neu 07758 358236 Twitter: @CwmniDB From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> ] On Behalf Of Rhian Huws Sent: 21 Gorffennaf 2016 11:10 To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Subject: Re: Rhagenw mewnol Diolch Muiris a Gorwel O ran y cywair – wedi’i anelu at blant blwyddyn 2, felly gorau po symlaf. Fy ngwestiwn i mewn gwirionedd yw a yw hi’n anghywir hepgor y rhagenw mewnol? Dwi’n cael y drafodaeth hon yn gyson ynghylch at beth mae’r rhagenw’n cyfeirio – a ellir dadlau o blaid y naill neu’r llall, ynteu a oes rheol bendant? I roi cwpwl o enghreifftiau: Faint mae’r plant yn ei bwyso? – i mi mae’r rhagenw’n cyfeirio at ‘faint’ yma. Ond ‘Faint o gilogramau mae’r plant yn eu pwyso?’ – byddwn i’n tybio mai cyfeirio at y cliogramau mae’r rhagenw yma? Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni. Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg Sent: 21 July 2016 10:54 To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Subject: Re: Rhagenw mewnol Mae'n dibynnu ar y cywair. Gyda llaw, gwelaf i ti dreiglo 'cymryd' yn yr ail enghraifft, fyddai'n digwydd petai rhagenw yno (fel y byddai'n ffurfiol) ond mae'n amlwg mai 'ei' gwrywaidd oedd yno (ei gymryd) ond iti ddefnyddio eu yn yr enghraifft gyntaf - sy'n codi'r cwestiwn o ba ragenw sy'n gywir yno 'eu' neu 'ei' - y cwestiwn, wrth gwrs, yw ai at 'munudau' ynteu 'faint' y mae'r rhagenw'n cyfeirio. 2016-07-21 10:37 GMT+01:00 Rhian Huws <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> >: Bore da gyfeillion Tybed all ryuwn roi cyngor gramadegol i mi? Oes angen y rhagenw mewnol mewn brawddeg fel hon: Faint o funudau mae’n eu cymryd i deithio o Gaerdydd i Abertawe. Neu ai’r canlynol sy’n gywir: Faint o funudau mae’n gymryd i deithio... Diolch ymlaen llaw. Rhian