Print

Print


Tybed oes ’na rywun wedi gweld cyfieithiad addas ar gyfer y gair yma mewn cyd-destun cyfreithiol. Mae wedi ennill ei blwyf rŵan am y broses o wneud dedfryd yn hwy/waeth am droseddau y mae hiliaeth neu gasineb at grefydd yn rhan ohonynt. Dwi’n gwybod mai ‘ymgodi’ neu ‘ddyrchafu’ sy’n cael eu cynnig yn y ffynonellau arferol ond i mi, mae hwn yn nes at ‘waethygu’ ‘cryfhau’ neu ‘ddifrifoli’ dedfryd, ond dwi ddim am fynd ati i gyfansoddi os oes ’na derm cydnabyddedig.

 

Byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau yn fawr.

 

Beryl