Print

Print


Cytuno - roeddwn ar fin deud hynny.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2016-07-21 13:13 GMT+02:00 Geraint <[log in to unmask]>:

Y broblem yw,  gellir hepgor yr 'ei' ond mae'r treiglad yn sefyll - heb unrhyw achos ymddangosiadol. Heb y treiglad, yr ydych yn ysgrifennu Saesneg yn Gymraeg, gyda'r unig ateb pan fydd popeth arall yn methu 'defnyddiwch eich clustiau!!'




From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> on behalf of Osian Rhys <[log in to unmask]>
Sent: 21 July 2016 11:02
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Rhagenw mewnol
 
Opsiwn arall hefyd ydy "Sawl munud mae'n gymryd...". Wn i ddim ydy 'sawl' yn symlach i bawb ond dw i'n meddwl ei fod yn gyfarwydd yng nghyd-destun mathemateg yn yr ysgol.

Osian


Ar 21 Gorffennaf 2016 am 12:01, David Bullock <[log in to unmask]> ysgrifennodd:

Ydy rhywbeth fel

 

'Faint mae'n ei gymryd, mewn munudau, i deithio o Gaerdydd i Abertawe?'

a

'Beth yw pwysau'n plant mewn cilogramau?'

 

yn haws ei ddeall i blant bach blwyddyn 2?

 

 

Cwmni DB Cyf.

Rhif y Cwmni: 04990174

Rhif TAW: 987 2849 49

Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH

Ffôn: (029) 2048 6677 neu 07758 358236

Twitter: @CwmniDB

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 21 Gorffennaf 2016 11:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Rhagenw mewnol

 

Diolch Muiris a Gorwel

 

O ran y cywair – wedi’i anelu at blant blwyddyn 2, felly gorau po symlaf. Fy ngwestiwn i mewn gwirionedd yw a yw hi’n anghywir hepgor y rhagenw mewnol?

 

Dwi’n cael y drafodaeth hon yn gyson ynghylch at beth mae’r rhagenw’n cyfeirio – a ellir dadlau o blaid y naill neu’r llall, ynteu a oes rheol bendant? I roi cwpwl o enghreifftiau:

 

Faint mae’r plant yn ei bwyso? – i mi mae’r rhagenw’n cyfeirio at ‘faint’ yma.

Ond ‘Faint o gilogramau mae’r plant yn eu pwyso?’ – byddwn i’n tybio mai cyfeirio at y cliogramau mae’r rhagenw yma?

 

Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni.

Rhian

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Muiris Mag Ualghairg
Sent: 21 July 2016 10:54
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Rhagenw mewnol

 

Mae'n dibynnu ar y cywair. 

 

Gyda llaw, gwelaf i ti dreiglo 'cymryd' yn yr ail enghraifft, fyddai'n digwydd petai rhagenw yno (fel y byddai'n ffurfiol) ond mae'n amlwg mai 'ei' gwrywaidd oedd yno (ei gymryd) ond iti ddefnyddio eu yn yr enghraifft gyntaf - sy'n codi'r cwestiwn o ba ragenw sy'n gywir yno 'eu' neu 'ei' - y cwestiwn, wrth gwrs, yw  ai at 'munudau' ynteu 'faint' y mae'r rhagenw'n cyfeirio. 

 

2016-07-21 10:37 GMT+01:00 Rhian Huws <[log in to unmask]>:

Bore da gyfeillion

 

Tybed all ryuwn roi cyngor gramadegol i mi? Oes angen y rhagenw mewnol mewn brawddeg fel hon:

 

Faint o funudau mae’n eu cymryd i deithio o Gaerdydd i Abertawe.

 

Neu ai’r canlynol sy’n gywir:

 

Faint o funudau mae’n gymryd i deithio...

 

Diolch ymlaen llaw.

 

Rhian