Opsiwn arall hefyd ydy "Sawl munud mae'n gymryd...". Wn i ddim ydy 'sawl' yn symlach i bawb ond dw i'n meddwl ei fod yn gyfarwydd yng nghyd-destun mathemateg yn yr ysgol. Osian Ar 21 Gorffennaf 2016 am 12:01, David Bullock <[log in to unmask]> ysgrifennodd: > Ydy rhywbeth fel > > > > 'Faint mae'n ei gymryd, mewn munudau, i deithio o Gaerdydd i Abertawe?' > > a > > 'Beth yw pwysau'n plant mewn cilogramau?' > > > > yn haws ei ddeall i blant bach blwyddyn 2? > > > > > > Cwmni DB Cyf. > > Rhif y Cwmni: 04990174 > > Rhif TAW: 987 2849 49 > > Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH > > Ffôn: (029) 2048 6677 neu 07758 358236 > > Twitter: @CwmniDB > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Rhian Huws > *Sent:* 21 Gorffennaf 2016 11:10 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Rhagenw mewnol > > > > Diolch Muiris a Gorwel > > > > O ran y cywair – wedi’i anelu at blant blwyddyn 2, felly gorau po symlaf. > Fy ngwestiwn i mewn gwirionedd yw a yw hi’n anghywir hepgor y rhagenw > mewnol? > > > > Dwi’n cael y drafodaeth hon yn gyson ynghylch at beth mae’r rhagenw’n > cyfeirio – a ellir dadlau o blaid y naill neu’r llall, ynteu a oes rheol > bendant? I roi cwpwl o enghreifftiau: > > > > Faint mae’r plant yn ei bwyso? – i mi mae’r rhagenw’n cyfeirio at ‘faint’ > yma. > > Ond ‘Faint o gilogramau mae’r plant yn eu pwyso?’ – byddwn i’n tybio mai > cyfeirio at y cliogramau mae’r rhagenw yma? > > > > Diolch ymlaen llaw am unrhyw oleuni. > > Rhian > > > > > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Muiris Mag Ualghairg > *Sent:* 21 July 2016 10:54 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Rhagenw mewnol > > > > Mae'n dibynnu ar y cywair. > > > > Gyda llaw, gwelaf i ti dreiglo 'cymryd' yn yr ail enghraifft, fyddai'n > digwydd petai rhagenw yno (fel y byddai'n ffurfiol) ond mae'n amlwg mai > 'ei' gwrywaidd oedd yno (ei gymryd) ond iti ddefnyddio eu yn yr enghraifft > gyntaf - sy'n codi'r cwestiwn o ba ragenw sy'n gywir yno 'eu' neu 'ei' - y > cwestiwn, wrth gwrs, yw ai at 'munudau' ynteu 'faint' y mae'r rhagenw'n > cyfeirio. > > > > 2016-07-21 10:37 GMT+01:00 Rhian Huws <[log in to unmask]>: > > Bore da gyfeillion > > > > Tybed all ryuwn roi cyngor gramadegol i mi? Oes angen y rhagenw mewnol > mewn brawddeg fel hon: > > > > Faint o funudau mae’n eu cymryd i deithio o Gaerdydd i Abertawe. > > > > Neu ai’r canlynol sy’n gywir: > > > > Faint o funudau mae’n gymryd i deithio... > > > > Diolch ymlaen llaw. > > > > Rhian > > > > > > >