Print

Print


Mae'n dibynnu ar y cywair. 

Gyda llaw, gwelaf i ti dreiglo 'cymryd' yn yr ail enghraifft, fyddai'n digwydd petai rhagenw yno (fel y byddai'n ffurfiol) ond mae'n amlwg mai 'ei' gwrywaidd oedd yno (ei gymryd) ond iti ddefnyddio eu yn yr enghraifft gyntaf - sy'n codi'r cwestiwn o ba ragenw sy'n gywir yno 'eu' neu 'ei' - y cwestiwn, wrth gwrs, yw  ai at 'munudau' ynteu 'faint' y mae'r rhagenw'n cyfeirio. 

2016-07-21 10:37 GMT+01:00 Rhian Huws <[log in to unmask]>:

Bore da gyfeillion

 

Tybed all ryuwn roi cyngor gramadegol i mi? Oes angen y rhagenw mewnol mewn brawddeg fel hon:

 

Faint o funudau mae’n eu cymryd i deithio o Gaerdydd i Abertawe.

 

Neu ai’r canlynol sy’n gywir:

 

Faint o funudau mae’n gymryd i deithio...

 

Diolch ymlaen llaw.

 

Rhian