Oes, ac mae’n anodd gwybod wedyn a ddylai rhywun gadw at hyn, er nad yw’n gwneud synnwyr i mi o gwbl. Oes ‘na rywun yn deall pam mae ‘gohiriedig’ wedi cael ei ddefnyddio yn y lle cyntaf. Mae’n rhaid bod rhywun wedi penderfynu ei fod yn cyfleu’r ystyr. Ond hyd y gwela’i – taliadau ‘gwneud iawn’ am beidio â darparu tai fforddiadwy yw’r rhain a does dim elfen o ohirio o gwbl.
Carolyn
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2016 11:59
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: Commuted sums
Rhaid cyfaddef nad ydw i’n deall ‘symiau gohiriedig’, chwaith, ond mae cannoedd o enghreifftiau o ‘swm / symiau gohiriedig’ ym maes cynllunio ar y we.
Yng Ngeiriadur Newydd y Gyfraith, ceir ‘symiau cynhaliaeth cymudedig’ am ‘commuted maintentance sums’. Maes arall, wrth gwrs.
Mae’n werth nodi mai ‘symiau cynhaliaeth ohiriedig’ a geir am ‘commuted maintenance sums’ ar TermCymru, h.y. defnyddio’r gair ‘gohiriedig’ eto, a’i dreiglo, er gwaethaf y ffaith, fel y dywed Robyn yn GNG, “y symiau, nid y gynhaliaeth, sy’n “gymudedig””.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eleri James
Sent: 07 July 2016 11:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Commuted sums
Dyw 'symiau gohiriedig' ddim fel petai'n gweddu i'r cyd-destun isod, hyd y gwelaf. Mae'n ymddangos nad gohirio taliadau yw'r bwriad, ond yn hytrach gwneud taliad yn lle cynnig gwasanaeth. Oes modd arall-eirio?
Eleri James
From: Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 5 July 2016, 12:36
Subject: ATB/RE: Commuted sums
Diolch Claire
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2016 12:28
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Commuted sums
‘symiau gohiriedig’ sydd ym Mholisi Cynllunio Cymru (Pennod 9, Tai).
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 05 July 2016 12:23
To: [log in to unmask]
Subject: Commuted sums
Oes ‘na derm cydnabyddedig am hwn?
Yn ôl y diffiniad, ‘Payments in-lieu of affordable housing’.
Diolch
Carolyn