Helo Gyfieithwyr Cymreig,

 

Cytuno’n llwyr efo Osian. Mae’r termau hyn e.e. Cymreig, Seisnig etc yn aml yn cael eu defnyddio’n gyfeiliornus. Yr enghraifft waethaf oedd Y Swyddfa Gymreig – Swyddfa Cymru erbyn hyn diolch byth.

 

Ond mae sôn ar Radio Cymru am Aelodau Seneddol Cymreig yn lle Aelodau Seneddol Cymru ac ati byth a hefyd. Ydyn nhw’n gwisgo hetiau tal ac yn bwyta dim byd ond bara lawr ac yn chwarae rygbi ac yn canu penillion?

 

g

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 04 Gorffennaf 2016 15:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: welsh

 

Pnawn da


Dw i'n deall mai dyna mae llawer o gyrff yn ei ddefnyddio ac mai dyna sydd ar TermCymru, ond i fi mae'r categorïau Gwyn Cymreig, Du Prydeinig ac ati yn gyfieithiadau o'r math gwaethaf.

Dw i ddim yn "Wyn Cymreig", Cymro Gwyn ydw i.

Galla i weld bod Cymro, Sais, Gwyddel, Prydeiniwr yn broblematig drwy eithrio hanner y boblogaeth. A dw i'n gwybod bod Cymro/Cymraes, Sais/Saesnes, Gwyddel/Gwyddeles, Prydeiniwr/Prydeinwraig yn gallu mynd yn hir, yn enwedig o'u cyfuno fel mae Claire yn sôn... Felly does gen i ddim ateb. Ond yn fy marn i mae'r arfer presennol yn gwbl groes i ddim y byddai neb call yn ei ddweud mewn Cymraeg go iawn! Mae'n rhaid bod rhyw ffordd arall o'i chwmpas hi?

Osian


Ar 4 Gorffennaf 2016 am 15:04, Claire Richards <[log in to unmask]> ysgrifennodd:

Mae lot fawr o gyrff yn defnyddio Cymreig / Seisnig.

 

Yn un peth, mae modd cyfuno’r rheiny wedyn – Du Prydeinig, Du Albanaidd, Du Cymreig, Du Seisnig, Asiaidd Prydeinig, Asiaidd Cymreig...

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 04 July 2016 14:42
To: [log in to unmask]
Subject: welsh

 

Pnawn da!

Holiadur sy dan sylw:

What is your ethnic group?

White (Welsh, English, Scottish, Irish, British)

Mae'r Albanaidd, Gwyddelig a'r Prydeinig yn amlwg, ond be ddwedwn ni am y ddau arall???

Cymry? Cymreig? Bosib nad oes digon o le i roi Cymro/Cymraes; Sais/Saesnes ; Seisnig?

Diolch,

Dafydd

 

 

 

Virus-free. www.avast.com

 

 

--

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.