Print

Print


Dyma nodyn perthnasol, o'r canllawiau iaith a luniwyd ar gyfer Cyfrifiad 2011:

‘Household’
Yn gyffredinol, defnyddiwch ‘cartref’ (nid ‘aelwyd’) ar gyfer household. O safbwynt yr holiadur, caiff ‘cartref’ ei ddiffinio fel:

*	person sy’n byw ar ei ben ei hun; neu
*	grŵp o bobl (nid oes rhaid iddynt berthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta.

 

Wrth gyfeirio at ‘household’ yn ei ystyr cyfreithiol (e.e. mewn deddf neu bolisi), rhaid defnyddio ‘aelwyd’ er mwyn bod yn glir (‘household’ yn hytrach na ‘home’).

Cofiwch hefyd nad oes modd trin ‘household’ fel person fel y gwneir yn y Saesneg weithiau. Rhaid dweud ‘aelod/aelodau’r cartref’, fel y gwelir yng nghwestiwn H12 yn Holiadur y Cartref):

 

Does your household own or rent this accomodation?


A yw aelod neu aelodau o’ch cartref yn berchen ar y cartref neu’n ei rentu?

 

Dwi wedi atodi copi o'r canllaw hefyd, rhag of ei fod o ddiddordeb i rywun.

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 30 Mehefin 2016 13:45
To: [log in to unmask]
Subject: Household

 

Mae ‘aelwyd’ yn gweithio’n reit dda fel rheol am ‘household’ ond beth fyddai eich barn chi am ‘household’ yn y math hwn o gyd-destun?

 

“There are 2000 households living in rented accommodation”.

 

Does dim modd dweud bod ‘aelwydydd’ yn byw, nac oes?

 

Ydy defnyddio ‘teuluoedd’ yn dderbyniol mewn sefyllfa fel hyn (er nad yw ‘household’ o reidrwydd yn cynnwys teulu).

 

Neu oes ‘na ddewis arall?

 

Diolch

Carolyn