Sent from my BlackBerry 10 smartphone on the EE network. Original Message From: Rhian Huws Sent: Friday, 24 June 2016 08:32 To: [log in to unmask] Reply To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary Subject: Re: myfyriwr/myfyrwraig Diolch bawb am y cyfraniadau diddorol. Er gwybodaeth, fe ddefnyddiais ‘myfyriwr’ i gyfeirio at y bechgyn a’r merched yn ddiwahan. Diolch eto Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 23 June 2016 17:33 To: [log in to unmask] Subject: Re: myfyriwr/myfyrwraig Yn hollol. Fel ag y mae hi mae'r benywaidd yn golygu 'merched yn unig' ond y gwrywaidd yn cynnwys pawb. Dwi'n cofio trafodaeth debyg i hon dro'n ol ynghylch telynorion - rhywbeth yn ol y perwyl telynores orau Prydain = y delynores orau ym Mhrydain [ymhlith merched]; telynor gorau Prydain = Y canwr telyn gorau ym Mhrydain, Petawn i'n Catrin Finch, dwi'n me3ddwl mai'r aqil yr hoffwn i fod. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2016-06-23 11:29 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>: Wedi meddwl yn aml y byddai'n well i rywun ennill fel "Dysgwr y Flwyddyn", sy'n cynnwys pawb, na "Dysgwraig y Flwyddyn" - teitl mwy cyfyngedig. Ann On 23/06/2016 09:25, Muiris Mag Ualghairg wrote: Rwy'n cytuno ag Anna, rwy'n cofion cael cyngor ynghylch athro/athrawes mai 'athro' yw'r swydd ac 'athrawes' yw'r person sy'n dal y swydd (os yw'n fenyw) ac felly i gyfeirio at athro wrth gyfeitihu hysbyseb a pheidio a rhoi 'athro/athrawes' 2016-06-23 9:04 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>: Ac o ran enwau swyddi, ddeudwn i ei bod yn hanfodol ymwrthod a'r gwahaniaeth. Byddai un corff roeddwn yn arfer a gweithio iddo yn mynnu newid 'Rheolwr' (y byddwn i'n ei roi yn fy nghopi) yn 'Rheolwraig'. Digwydd bod, roedd y rheolwyr yn y corff hwnnw'n fenywaidd ar y pryd, ond be tasa na ddyn yn cael ei benodi yn lle un ohonyn nhw? wedyn mae'r swydd ei hun yn gorfod newid ei henw, a dwi'n gweld hynny'n hurt. Weithia mae'n well aberthu cywirdeb gwleidyddol o blaid synnwyr cyffredin. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2016-06-23 9:46 GMT+02:00 Rhian Huws <[log in to unmask]>: Bore Da gyfeillion Ydy hi’n dderbyniol defnyddio’r term ‘myfyriwr’ fel term generig i gyfeirio at fyfyrwyr benwyaidd yn ogystal â rhai gwrywaidd erbyn hyn? Diolch ymlaen llaw Rhian No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2016.0.7640 / Virus Database: 4604/12476 - Release Date: 06/23/16