Mewn cymanfa ganu beth amser yn ôl roedd yr arweinydd, o ogledd Ceredigion, yn mynnu dweud ‘Dwi am holi i chi ganu …’
Tafodieithol ‘na camddealltwriaeth tybed?

Siân



On 26 May 2016, at 15:09, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:

Cytuno ynglŷn â ‘holi’ a ‘gofyn’. Holi person a gofyn cwestiwn fydda i, ond mae’r rhai hefyd yn cael eu cymysgu erbyn hyn, fel ‘brodorol’ a ‘cynhenid’.
Mary 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 26 May 2016 12:07
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: questioning
 
Cytuno – mae ‘cwestiynu’ yn awgrymu ‘amau’ ac mae’n cael ei gamddefnyddio yn lle ‘holi’ yn aml. A gyda llaw, dw i’n meddwl bod holi yn cael ei gamddefnyddio hefyd yn lle ‘gofyn’. Onid gofyn cwestiwn yw ‘holi’? h.y. felly does dim modd ‘holi cwestiwn’ nac oes. O ran yr ‘ymholiad’ yma, cytuno y byddai ‘ymholi’ yn gweithio.
Carolyn
 
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Anfonwyd: Dydd Iau, 26 Mai 2016 11:49
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: questioning
 

Dwi'n cytuno bod cwestiynu yn cyfleu amheuaeth. Ac er nad ydi GPC yn rhoi 'amau' fel cyfystyr, mae'r enghreifftiau mae'n eu cynnig yn sicr yn golygu 'amau'.

Fyddai 'ymchwilio' neu 'ymholi' yn nes ati?

Geraint

On 26/05/2016 11:39, Osian Rhys wrote:

Bore da gyfeillion

Tybed oes rhywun wedi dod ar draws questioning yng nghyd-destun cyfeiriadedd rhywiol?

https://en.wikipedia.org/wiki/Questioning_(sexuality_and_gender)

Roeddwn i'n rhyw feddwl am chwilfrydig ond mae'n debyg ei bod yn fwy o broses, ac felly y byse berf yn fwy addas.

Dw i'n gweld bod Wicipedia wedi mynd am cwestiynu:

https://cy.wikipedia.org/wiki/Cwestiynu_(rhywioldeb_a_rhywedd)

O'n i'n rhyw feddwl bod "cwestiynu" yn Gymraeg yn cyfleu herio neu fwrw amheuaeth ar rywbeth, yn hytrach na holi/archwilio math o beth... Ond falle mai dim ond fi sy'n meddwl hynny?

Diolch yn fawr am unrhyw syniadau!

Osian