Print

Print


Cytuno efo Geraint

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 16 Mai 2016 18:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo / dim treiglo

Fyswn i'n deud Ystafell Lungopïo neu Ystafell y Llungopïwr.

Geraint

Anfonwyd o'm ffôn-i.

On 16 Mai 2016, at 6.27 PM, anna gruffydd <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> wrote:
Mae newid yr enw'n Lungopio'n ateb y ddadl i'r dim. Ond oni fyddai'n treiglo beth bynnag? gan fod Llungopiwr yn y cyd-destun yma'n gweithio'n ansoddeiriol (run fath ag adran ddrama, siop bapur newydd)?? Neu mae'n golygu bod y stafall yn perthyn i'r llungopiwr. Mae hon yn broblem sy'n codi cur pen i mi byth a beunydd, achos weithia mae'n anodd pennu p'run di p'run. Dim help, unwaith eto.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2016-05-16 19:14 GMT+02:00 Rhian Huws <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>>:
Dwi ddim yn gwbl sicr ond dwi’n credu bod angen treiglo os yw’r hyn sy’n dilyn yn gweithredu fel ansoddair neu ferf. Felly mi faswn i’n dueddol o dreiglo Ystafell Lungopïo, ond nid Ystafell Llungopïwr. Dwi’n credu y gellid dadlau mai ‘berf’ yw’r gair ‘Cyfarfod yn y cyd-destun yma a dyna pam mae’n treiglo. Dwi’n siwr y gwnaiff rywun fy nghywiro os dwi’n dy arwain ar gyfeiliorn!

Rhian

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 16 May 2016 17:16
To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Subject: Re: Treiglo / dim treiglo


dwi'n ddigon simsan fy ngramadeg - y treiglo sy'n gywir, decini - ond dwi'n medru gweld pam mae treiglo'r Llungopiwr yn teimlo'n chwithig. Ella am ei fod yn air cymharol ddiarth? Dim ffliwjan o help, sori, dim ond cydymdeimlad!

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2016-05-16 18:03 GMT+02:00 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>>:
Ymddiheuriadau - dim holi am derm ydw i ond gramadeg. Fedr rhywun helpu plîs? Dwi'n mynd rownd a rownd yn fama!

Mae gen i enwau ystafelloedd i'w cyfieithu - photocopier room, meeting room ac ati. Ar ôl rhoi Ystafell Gyfarfod, mi roddais Ystafell Llungopïwr wedyn. Mae'n teimlo'n iawn treiglo Cyfarfod ond ddim Llungopïwr - be ydi'r rheol? Dwi'n gwybod mod i fod i wybod hyn, ond dwi'n teimlo'n dwp iawn pnawn ma.

Diolch am unrhyw arweiniad gan rywun doeth a chall.

Sioned





--

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.