Mewn ffordd oni ddylen ni ddefnyddio’r fannod?

 

Strategaeth y Plant

Strategaeth y Gofalwyr

ond

Y Strategaeth Dai

Y Strategaeth Wastraff

Y Strategaeth Rifedd

 

Ydyn ni’n rhy barod, yn ddiferddewl bron, i ddilyn patrwm y Saesneg?

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 25 Mai 2016 10:23
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo ar ôl enw benywaith

 

Ydy o'n rhywbeth i'w wneud efo swyddogaeth y ddau air?  Mae o'n fater mwydro pen, 'tydy.  Fydda i'n meddwl weithiau tybed ydy o'n dibynnu ar gyflwr yr ail enw - os ydy hwnnw yn y cyflwr genidol, ni ddylid treiglo ond os ydy ei swyddogaeth o'n ansoddeiriol, wedyn dylid treiglo.

 

2016-05-25 9:35 GMT+01:00 Rhian Huws <[log in to unmask]>:

Bore da gyfeillion

 

Yn dilyn y drafodaeth yr wythnos diwethaf ynghylch treiglo ar ôl ‘ystafell’, tybed a all unrhyw un egluro i mi beth yw’r rheswm gramadegol dros yr amrywiadau canlynol:

 

Strategaeth Plant

Strategaeth Gofalwyr

Strategaeth Dai

Strategaeth Wastraff

Strategaeth Rifedd

 

Maen nhw i gyd yn swnio’n iawn i mi, heblaw am ‘strategaeth dai’ ond oes ydyn ni’n dilyn yr un egwyddor ag ‘ystafell gotiau’ ac ati, oni ddylid treiglo pob un?

 

Diolch ymlaen llaw

 

Rhian

 

--

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.