Cytuno.
Ann
[log in to unmask]" type="cite">Fyswn i'n deud Ystafell Lungopïo neu Ystafell y Llungopïwr.
Geraint
Anfonwyd o'm ffôn-i.Mae newid yr enw'n Lungopio'n ateb y ddadl i'r dim. Ond oni fyddai'n treiglo beth bynnag? gan fod Llungopiwr yn y cyd-destun yma'n gweithio'n ansoddeiriol (run fath ag adran ddrama, siop bapur newydd)?? Neu mae'n golygu bod y stafall yn perthyn i'r llungopiwr. Mae hon yn broblem sy'n codi cur pen i mi byth a beunydd, achos weithia mae'n anodd pennu p'run di p'run. Dim help, unwaith eto.
Anna
Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!
2016-05-16 19:14 GMT+02:00 Rhian Huws <[log in to unmask]>:
Dwi ddim yn gwbl sicr ond dwi’n credu bod angen treiglo os yw’r hyn sy’n dilyn yn gweithredu fel ansoddair neu ferf. Felly mi faswn i’n dueddol o dreiglo Ystafell Lungopïo, ond nid Ystafell Llungopïwr. Dwi’n credu y gellid dadlau mai ‘berf’ yw’r gair ‘Cyfarfod yn y cyd-destun yma a dyna pam mae’n treiglo. Dwi’n siwr y gwnaiff rywun fy nghywiro os dwi’n dy arwain ar gyfeiliorn!
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 16 May 2016 17:16
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treiglo / dim treiglo
dwi'n ddigon simsan fy ngramadeg - y treiglo sy'n gywir, decini - ond dwi'n medru gweld pam mae treiglo'r Llungopiwr yn teimlo'n chwithig. Ella am ei fod yn air cymharol ddiarth? Dim ffliwjan o help, sori, dim ond cydymdeimlad!
Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
2016-05-16 18:03 GMT+02:00 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>:
Ymddiheuriadau - dim holi am derm ydw i ond gramadeg. Fedr rhywun helpu plîs? Dwi'n mynd rownd a rownd yn fama!
Mae gen i enwau ystafelloedd i'w cyfieithu - photocopier room, meeting room ac ati. Ar ôl rhoi Ystafell Gyfarfod, mi roddais Ystafell Llungopïwr wedyn. Mae'n teimlo'n iawn treiglo Cyfarfod ond ddim Llungopïwr - be ydi'r rheol? Dwi'n gwybod mod i fod i wybod hyn, ond dwi'n teimlo'n dwp iawn pnawn ma.
Diolch am unrhyw arweiniad gan rywun doeth a chall.
Sioned
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2016.0.7597 / Virus Database: 4568/12243 - Release Date: 05/16/16