Cytuno. Ann On 16/05/2016 18:37, Geraint Lovgreen wrote: > Fyswn i'n deud Ystafell Lungopïo neu Ystafell y Llungopïwr. > > Geraint > > Anfonwyd o'm ffôn-i. > > On 16 Mai 2016, at 6.27 PM, anna gruffydd <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> wrote: > >> Mae newid yr enw'n Lungopio'n ateb y ddadl i'r dim. Ond oni fyddai'n >> treiglo beth bynnag? gan fod Llungopiwr yn y cyd-destun yma'n >> gweithio'n ansoddeiriol (run fath ag adran ddrama, siop bapur >> newydd)?? Neu mae'n golygu bod y stafall yn perthyn i'r llungopiwr. >> Mae hon yn broblem sy'n codi cur pen i mi byth a beunydd, achos >> weithia mae'n anodd pennu p'run di p'run. Dim help, unwaith eto. >> >> Anna >> >> Ye who opt for cut'n'paste >> Tread with care and not in haste! >> >> 2016-05-16 19:14 GMT+02:00 Rhian Huws <[log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]>>: >> >> Dwi ddim yn gwbl sicr ond dwi’n credu bod angen treiglo os yw’r >> hyn sy’n dilyn yn gweithredu fel ansoddair neu ferf. Felly mi >> faswn i’n dueddol o dreiglo Ystafell Lungopïo, ond nid Ystafell >> Llungopïwr. Dwi’n credu y gellid dadlau mai ‘berf’ yw’r gair >> ‘Cyfarfod yn y cyd-destun yma a dyna pam mae’n treiglo. Dwi’n >> siwr y gwnaiff rywun fy nghywiro os dwi’n dy arwain ar gyfeiliorn! >> >> Rhian >> >> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary [mailto:[log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]>] *On Behalf Of *anna >> gruffydd >> *Sent:* 16 May 2016 17:16 >> *To:* [log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]> >> *Subject:* Re: Treiglo / dim treiglo >> >> dwi'n ddigon simsan fy ngramadeg - y treiglo sy'n gywir, decini - >> ond dwi'n medru gweld pam mae treiglo'r Llungopiwr yn teimlo'n >> chwithig. Ella am ei fod yn air cymharol ddiarth? Dim ffliwjan o >> help, sori, dim ond cydymdeimlad! >> >> Anna >> >> >> Ye who opt for cut'n'paste >> >> Tread with care and not in haste! >> >> 2016-05-16 18:03 GMT+02:00 Sioned Graham-Cameron >> <[log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]>>: >> >> Ymddiheuriadau - dim holi am derm ydw i ond gramadeg. Fedr rhywun >> helpu plîs? Dwi'n mynd rownd a rownd yn fama! >> >> Mae gen i enwau ystafelloedd i'w cyfieithu - photocopier room, >> meeting room ac ati. Ar ôl rhoi Ystafell Gyfarfod, mi roddais >> Ystafell Llungopïwr wedyn. Mae'n teimlo'n iawn treiglo Cyfarfod >> ond ddim Llungopïwr - be ydi'r rheol? Dwi'n gwybod mod i fod i >> wybod hyn, ond dwi'n teimlo'n dwp iawn pnawn ma. >> >> Diolch am unrhyw arweiniad gan rywun doeth a chall. >> >> Sioned >> >> >> >> > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> > Version: 2016.0.7597 / Virus Database: 4568/12243 - Release Date: 05/16/16 >