Print

Print


Rydym wedi bod yn defnyddio pilcota mewn pyllau; rhwydo mewn pyllau

Hwyl

LlÅ·r

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 05 April 2016 14:02
To: [log in to unmask]
Subject: pond dipping

'Rwyf wedi bod yn gyndyn i ofyn hyn, gan  fy mod i'n teimlo imi ei weld o'r blaen ac, a dweud y gwir, 'rwy'n teimlo fy mod innau wedi'i gyfieithu o'r blaen, ond 'rwy'n methu dod o hyd iddo.

'Rwy'n ystyried "[ar]chwilio / chwilota / rhwydo pyllau" ond byddwn i'n meddwl bod 'na ryw un term sy'n fwy cyffredin na'r lleill.

Gyda llaw, 'rwyf wedi gweld sawl enghraifft o "trochi pyllau" - wn i ddim a yw hyn o ganlyniad i ddiffyg gwybodaeth ynghylch beth yw "pond dipping" ynteu diffyg gwybodaeth ynghylch ystyr "trochi".  Mae ffermwr yn trochi defaid ac mae plant yn medru ymdrochi mewn pwll. Nid oes modd trochi pwll, ac efallai byddai "Miss" yn cael sioc tasai'r plant yn cymryd yn eu pennau i drio.

Gyda diolch am unrhyw awgrymiadau,

Ann

--
Ann Corkett
5 Heol Belmont
BANGOR, Gwynedd
LL57 2HS

(01248) 371987
[log in to unmask]

  

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiadau yn gyfrinachol ac wedi'u bwriadu at ddefnydd yr unigolyn y'u cyfeiriwyd ato/ati yn unig. Os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r sawl a'i hanfonodd ar unwaith, dilëwch y neges o'ch cyfrifiadur a dinistriwch unrhyw gopïau papur ohoni. Ni ddylech ddangos yr e-bost i neb arall, na gweithredu ar sail y cynnwys. Eiddo'r awdur yw unrhyw farn neu safbwyntiau a fynegir, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwynt y Cyngor. Dylech wirio am firysau eich hunan cyn agor unrhyw atodiad. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu niwed a all fod wedi'i achosi gan firysau meddalwedd neu drwy ryng-gipio'r neges hon neu ymyrryd â hi.

This e-mail and any attachments are confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed. 
If received in error please notify the sender immediately, delete the message from your computer and destroy any hard copies. The e-mail should not be disclosed to any other person, nor the contents acted upon.

Any views or opinions expressed are those of the author and do not necessarily represent those of the Council.

You should carry out your own virus check before opening any attachment. We accept no liability for any loss or damage which may be caused by software viruses or interception/interruption of this mail.