Cyflwynir drwy gyfrwng y Saesneg
Datblygu rhoddwyr unigol er mwyn darparu ffrwd gyllid gynaliadwy.
Bydd y cwrs hwn yn defnyddio dull marchnata i godi arian gan unigolion. Bydd yn edrych ar ffyrdd o fynd ati i recriwtio a datblygu rhoddwyr unigol er mwyn
darparu ffrwd gyllid gynaliadwy i’ch elusen.
Fe’i bwriedir i’r rheini sy’n newydd i godi arian gan unigolion a hefyd y rheini sydd â pheth brofiad ac am gynyddu eu dealltwriaeth o’r potensial i godi arian gan roddwyr unigol
Grŵp targed:
Ymddiriedolwyr, staff a gwirfoddolwyr mewn mudiadau treftadaeth gan gynnwys amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau a mudiadau treftadaeth naturiol.
Canlyniadau dysgu:
Ar ôl bod ar y cwrs hwn, byddwch yn gallu:
-
Deall beth sy’n cymell pobl i roi
-
Creu cynllun i godi arian gan unigolion
-
Datblygu dadleuon priodol dros gefnogaeth
-
Cydnabod pwysigrwydd marchnata effeithiol
-
Deall sut i werthuso a monitro perfformiad ymgyrchoedd
-
Manteisio ar roddion treth-effeithiol
|