Print

Print


Ond mae “taflunio” yn cynnwys yr elfen “llun”.  (Mae’n dweud “optical” am “taflunio” yn termau.cymru.)

Dwi’n siwr bod pobl yn dweud “Mae angen i ti daflu dy lais” wrth annog plant i gymryd rhan yn gyhoeddus.

Mae “taflu llais” yn cael ei ddefnyddio am “voice projection” yma:
http://www2.careerswales.com/employers/we_child_care.asp?language=Welsh

ac yma:
http://www.bbc.co.uk/education/guides/zps49j6/revision

Mae’n debyg y byddai’r cyd-destun yn dangos y gwahaniaeth rhwng ventriloquism a voice projection. Am wn i!

Siân



On 31 Mar 2016, at 09:47, Gruffydd Jones <[log in to unmask]> wrote:

Taflu llais yn swnio fel ventriloquism i mi.

Taflunio? Taflunydd yn weddol gyfarwydd am projector tydi.