Print

Print


Gwell ichi fynd i wneud paned o de cyn darllen hyn o lith!

Roedd y Rheoliadau Arwyddion Ffyrdd (rwy'n credu mai dyna oedd y teitl) yn
pennu beth oedd yn rhaid i'r arwydd Saesneg fod. Pan oedd angen cael fersiwn
Gymraeg wedyn o ganlyniad i Adroddiad Bowen ar Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog,
penderfynwyd mai gan yr awdurdodau lleol fyddai'r gair olaf - yr un fath
gydag enwau llefydd. Cafodd cannoedd o fersiynau Cymraeg o'r arwyddion eu
creu (ie, tua 1985) a'u hanfon at yr awdurdodaau lleol, ond fel
awgrymiadiau'n UNIG. Yn anffodus roedd y Rheoliadau wedi pennu pa ffurf
fyddai i'r arwyddion, e.e. sawl llinell, sawl llythyren neu fwlch mewn
llinell, a hyd a lled pob arwydd. Doedd dim posib dwyn perswâd ar yr
arbenigwyr uniaith nad oedd rhywbeth yn bosibl neu'n dderbyniol yn Gymraeg,
a dyna oedd y rheswm dros weld rhai cynigion rhyfedd ac annerbyniol yn
Gymraeg. O ganlyniad byddai'r sylwadau rhyfeddaf yn cael eu cyflwyno gan rai
awdurdodau, e.e. un cyngor dosbarth (fel roedden nhw bryd hynny) yn tyngu
mai un ystyr yn unig oedd i 'dosbarth', sef dosbarth o blant ysgol! Un arall
oedd y gair 'sbwriel/ysbwriel'. Na, meddai un dyn gwybodus, 'gwasarn' oedd y
gair.
Felly, gan nad oedd lle ar yr arwydd ar gyfer y geiriau 'dod oddi ar', roedd
yn rhaid mynd am 'disgyn' ar gyfer beicwyr a dydy hynny ddim yn ddoniol i ni
yn y de, wrth gwrs. Un arall sy'n achosi chwerthin yn amal yw 'Sefwch yma'
yn hytrach nag 'Arhoswch yma'. Na, dim lle, a dim ond ychydig awrdurdodau
lleol â digon o asgwrn cefn i ail-lunio'r arwydd yn llwyr i ddweud 'Tra bydd
golau coch arhoswch yma' am 'When red light shows'. Mae agwedd sawl un wedi
gwella erbyn hyn, diolch byth.
Mwynhewch eich Pasg(iau) a byddwch yn drugarog wrth rai o'r hen arwyddion
annwyl!
Mary   

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Jones
Sent: 23 March 2016 14:47
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cyclists dismount

Hyd y gwela i nid oes deddfwriaeth yn penodi'r cyfieithiad (gan nad oedd ar
gael ym 1985).  Wela i ddim o'i le ar "Beicwyr/Man Disgyn".
Efallai ei fod yn codi hwyl, ond dim ond gan ein bod ni wedi arfer peidio
chwerthin am ben y Saesneg ar arwyddion sy'n od ar y naw pan fydd rhywun yn
ei weld trwy lygad newydd.

Rhaid peidio creu'r argraff mai gorchymyn syd yma, gan mai dim ond cynghorol
yw'r arwydd yn ol deddf.  Ac mae'r Canllaw swyddogol yn dweud na ddyli ond
ei ddefnyddio ar ddiwedd llwybr beidio sydd mewn peryg o arwain beiciwr i
fynd yn ei flaen i rhwyle nad yw becio'n gyfreithlon.  Nid mai dyna sut y'i
defnyddir fel arfer.