Print

Print


Nac ydyn – ond mae trenau Virgin yn cyhoeddi ‘passengers dismounting’.....mae bob tro’n gwneud imi feddwl mod i’n byw yn y gorffennol!

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Neil Shadrach
Anfonwyd: Dydd Mercher, 23 Mawrth 2016 15:19
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: Cyclists dismount

 

Ydy pobl yn dweud 'mount/dismount' yn Saesneg? Go brin.

 

Ar 23 Mawrth 2016 am 14:55, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]> ysgrifennodd:

Ond ydy pobl yn dweud 'disgyn oddi ar feic' yn yr ystyr 'dod oddi arno'
erbyn hyn? Fyddwn i byth yn dweud 'disgynna oddi ar dy feic' wrth blentyn.
Cytuno efo'r sylw am beidio â defnyddio'r gorchmynnol.  Yr awgrym yn sicr yw
y byddai'n ddoeth i rywun gerdded yn hytrach na reidio.

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint
Jones
Anfonwyd: Dydd Mercher, 23 Mawrth 2016 14:47
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Cyclists dismount

Hyd y gwela i nid oes deddfwriaeth yn penodi'r cyfieithiad (gan nad oedd ar
gael ym 1985).  Wela i ddim o'i le ar "Beicwyr/Man Disgyn".
Efallai ei fod yn codi hwyl, ond dim ond gan ein bod ni wedi arfer peidio
chwerthin am ben y Saesneg ar arwyddion sy'n od ar y naw pan fydd rhywun yn
ei weld trwy lygad newydd.

Rhaid peidio creu'r argraff mai gorchymyn syd yma, gan mai dim ond cynghorol
yw'r arwydd yn ol deddf.  Ac mae'r Canllaw swyddogol yn dweud na ddyli ond
ei ddefnyddio ar ddiwedd llwybr beidio sydd mewn peryg o arwain beiciwr i
fynd yn ei flaen i rhwyle nad yw becio'n gyfreithlon.  Nid mai dyna sut y'i
defnyddir fel arfer.