Felly byddai modd anghofio am y “Great British” a dweud rhywbeth fel “Brechdan Grasu Flasus” neu, i gael tam’ bach o gyflythreniad, “Brechdan Grasu Grêt”! Siân > On 21 Mar 2016, at 12:58, Lewys Rhys (ABM ULHB - Corporate Services) <[log in to unmask]> wrote: > > Mae’r Great British Toastie Company yn edrych fel fan bwyd wrth edrych ar eu gwefan, os felly, dwi ddim yn meddwl eu body yn cyflenwi bwyd i Costa. Ond yn y defnydd hyrwyddol yr ymddengys y term ‘Great British Toastie’ o beth welaf i, ac nid dyna enw’r cynnyrch. Gellir gweld y testun ar wefan Costa yn awr, dim ond brechdan grasu ham a chaws yw’r Great British Toastie sydd mewn cwestiwn. > > Lewys > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett > Sent: 21 March 2016 12:50 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Great British --- > > Fel y gofynnais o'r blaen, a yw'r frechdanau'n gynnyrch y "Great British Toastie COMPANY" (Os nad ydynt, mae bai ar y caffi)? > Ann > > On 21/03/2016 12:14, Lewys Rhys (ABM ULHB - Corporate Services) wrote: > Dyma’r cyd-destun: mae’r term yn ymddangos ar fwrdd biliau sy’n berchen i gaffi Costa sydd yn gweithredu y tu fewn un o Ysbytai’r GIG (ac felly yn atebol i’r ddeddf iaith). Credaf fod y term ‘Great British’ yn cael ei ddefnyddio mewn yn y ffurf cyffredinol, fel y mae pobl yn dweud ‘a great british curry’ neu ‘a great british pint’ neu be bynnag – hynny yw, ei fod yn Brydeinig ac yn dda, (a’r awgrymiad cenedlaetholgar yna ei fod yn dda oherwydd ei fod yn Brydeinig a’r ffordd arall rownd hefyd). > > Dwi ddim yn meddwl bysai unrhyw gyfieithiad sy’n awgrymu mai dyma’r frechdan grasu ‘orau’ yn gyfieithiad cywir, felly. > > Cofion > > Lewys > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]>] On Behalf Of Ann Corkett > Sent: 21 March 2016 11:54 > To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > Subject: Re: Great British --- > > Ga i ofyn ym mha gyd-destun y mae rhaid cyfieithu'r fath beth? Cyhyd ag y gallaf ei weld, cwmni, nid cystadleuaeth, ydyw. Felly, os am gyfeirio at y cwmni, 'does dim pwynt cyfieithu'r enw. Os mai'r cwmni ei hun sydd wedi gofyn am gyfieithiad, pam nad "Brechdan Grasu Orau Prydain"? > Ann > > On 21/03/2016 10:42, Lewys Rhys (ABM ULHB - Corporate Services) wrote: > Oes rhywun wedi gorfod cyfieithu rhywbeth tebyg o’r blaen? The Great British Toastie sydd gen i, a dwi’m yn siwr os ydi ‘Y Frechdan Grasu Brydeinig Fawr’ yn gwneud y tro! Yn enwedig gan fo great yn medru golygu ‘da’ yn ogystal a ‘mawr’. Ond dyw’r chwarae ar eiriau ddim yn gweithio fel arall. Unrhyw sylwadau? > > Cofion, > > Lewys > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com/> > Version: 2016.0.7497 / Virus Database: 4542/11857 - Release Date: 03/21/16 > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com/> > Version: 2016.0.7497 / Virus Database: 4542/11857 - Release Date: 03/21/16 >