Print

Print


Dyma'r cyd-destun: mae'r term yn ymddangos ar fwrdd biliau sy'n berchen i gaffi Costa sydd yn gweithredu y tu fewn un o Ysbytai'r GIG (ac felly yn atebol i'r ddeddf iaith). Credaf fod y term 'Great British' yn cael ei ddefnyddio mewn yn y ffurf cyffredinol, fel y mae pobl yn dweud 'a great british curry' neu 'a great british pint' neu be bynnag - hynny yw, ei fod yn Brydeinig ac yn dda, (a'r awgrymiad cenedlaetholgar yna ei fod yn dda oherwydd ei fod yn Brydeinig a'r ffordd arall rownd hefyd).

Dwi ddim yn meddwl bysai unrhyw gyfieithiad sy'n awgrymu mai dyma'r frechdan grasu 'orau' yn gyfieithiad cywir, felly.

Cofion

Lewys

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 21 March 2016 11:54
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Great British ---

Ga i ofyn ym mha gyd-destun y mae rhaid cyfieithu'r fath beth? Cyhyd ag y gallaf ei weld, cwmni, nid cystadleuaeth, ydyw.  Felly, os am gyfeirio at y cwmni, 'does dim pwynt cyfieithu'r enw.  Os mai'r cwmni ei hun sydd wedi gofyn am gyfieithiad, pam nad "Brechdan Grasu Orau Prydain"?
Ann
On 21/03/2016 10:42, Lewys Rhys (ABM ULHB - Corporate Services) wrote:
Oes rhywun wedi gorfod cyfieithu rhywbeth tebyg o'r blaen? The Great British Toastie sydd gen i, a dwi'm yn siwr os ydi 'Y Frechdan Grasu Brydeinig Fawr' yn gwneud y tro! Yn enwedig gan fo great yn medru golygu 'da' yn ogystal a 'mawr'. Ond dyw'r chwarae ar eiriau ddim yn gweithio fel arall. Unrhyw sylwadau?

Cofion,

Lewys

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com<http://www.avg.com>
Version: 2016.0.7497 / Virus Database: 4542/11857 - Release Date: 03/21/16