Rwy'n credu taw "bricwns" oedd gair yr hen bobol ym Merthyr am goed i ddechrau tân. From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Bethan Mair Sent: 17 Mawrth 2016 13:26 To: [log in to unmask] Subject: Re: pooh-sticks Ffyn bach yw’r rheina yn y gêm – ond ffyn hefyd sy’n dal y cidna-bêns lan yn yr ardd, a ffyn yw’r pethau y mae hi’n bwrw, ynghyd â hen wragedd, mewn glaw mawr. Coed tân yw’r hyn mae’r gogs yn galw’n briciau, dwi’n meddwl, a brigau yw’r pethau y mae brain yn eu cludo yn eu pigau i wneud nyth. Dyw’r gair ‘priciau’ ddim yn bodoli yn Gymraeg yn y de. Ac mae gwahaniaeth rhwng coed tân a boncyffion. Y darnau bach heb risgl arnyn nhw i ddechrau’r tân yw’r coed, cyn i ti roi glo, ond os oes gen ti losgwr pren, yna boncyffion sy’n mynd i hwnnw. Ond mewn boncyff cau (cou) y cuddiodd Meinir rhag ffrindiau Rhys yn Nant Gwrtheyrn hefyd, cofia… Yr un gair am sawl peth, a geiriau gwahanol am yr un peth. Dryslyd! B Bethan Mair MA Y Gwasanaeth Geiriau The Word Service [log in to unmask] 07779 102224 Skype: bethanmair54 Ms Bethan Mair Hughes Y Berth 29 Coed Bach Pontarddulais Abertawe / Swansea SA4 8RB On 17 Mawrth 2016, at 12:48, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote: Pwy sy'n cofio'r gêm yma - be fysach chi'n galw'r rhein? http://6022565f33b4ba4ece66-29a9489ebb86a6429add7b320d057d81.r13.cf2.rackcdn .com/pickupsticks_gr.jpg (dyna oeddwn i wedi dychmygu oedd 'pooh-sticks' cyn imi Wglo) Geraint On 17/03/2016 12:33, Bethan Mair wrote: Brigyn, cangen, boncyff, colfen / coeden. Sglodyn, pishyn o bren, plancyn – y geiriau hyn yn cyfeirio at bren wedi’i drin / llifio, nid yn ei ffurf gysefin oddi ar y goeden. Bethan Bethan Mair MA Y Gwasanaeth Geiriau The Word Service [log in to unmask] 07779 102224 Skype: bethanmair54 Ms Bethan Mair Hughes Y Berth 29 Coed Bach Pontarddulais Abertawe / Swansea SA4 8RB On 17 Mawrth 2016, at 12:28, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote: Brigau rasio / rasys brigau te? O ran diddordeb, be dech chi'n ddeud yn y de am briciau coed tân? On 17/03/2016 12:09, Claire Richards wrote: Angen cannydd ymennydd... Brigau sydd wedi disgyn o goed yw’r union bethau sydd yn y darluniadau gwreiddiol yn y llyfrau. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [ <mailto:[log in to unmask]> mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 17 March 2016 12:02 To: [log in to unmask] Subject: Re: pooh-sticks Yn enwedig "priciau pw" ie Claire?! I fi mae brigau yn bethau sydd wedi disgyn o'r coed. Mae'r Pooh-sticks yn y darn dwi'n gyfieithu yn bethau sy'n cael eu cadw mewn bocs mewn gwesty, felly o'n i'n dychmygu eu bod nhw'n fwy tebyg i briciau coed tân. Geraint On 17/03/2016 11:14, Claire Richards wrote: Tydi pobl y de ddim yn dweud ‘priciau’. ‘Brigau / brige’, ynteu. Dwi’n dychmygu beth fyddai’r ymateb taswn i’n crybwyll yr ymadrodd ‘rasys priciau’ wrth bobl ifanc y de... Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [ <mailto:[log in to unmask]> mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 17 March 2016 11:09 To: [log in to unmask] Subject: Re: pooh-sticks ie siwr, priciau de. "Rasys priciau" hwyrach, a "priciau rasio" am y ffyn eu hunain? On 17/03/2016 10:57, anna gruffydd wrote: Ella gellid hepgor y Pw a'i galw'n 'gem pricia bach' ne rwbath felly? Fasa 'ffyn' ddim yn taro beth bynng - rhy fawr - fedra chdi'm chwara pooh sticks efo ffyn. Anna Ye who opt for cut'n'paste Tread with care and not in haste! 2016-03-17 11:43 GMT+01:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>: Mae'n debyg fod yna gêm a elwir 'Pooh-sticks' ac wedi Gwglo dyma ganfod mai "Winnie the Pooh" ddyfeisiodd y gêm yn llyfrau AA Milne. Dwi wedi gweld llyfrau Cymraeg "Wini'r Pw" - ond mae "ffyn pw" yn swnio'n fudur braidd. Rhyfedd bod "pooh-sticks" yn dderbyniol - mae'n rhaid mai'r 'h' sy'n gwneud y gwahaniaeth hanfodol. Mae "poo-stick" yn cyfleu syniad eitha gwahanol. Dwi'n gwbod nad pnawn dydd Gwener ydi hi eto, ond unrhyw awgrymiadau? ;-) Geraint