Ella gellid hepgor y Pw a'i galw'n 'gem pricia bach' ne rwbath felly? Fasa 'ffyn' ddim yn taro beth bynng - rhy fawr - fedra chdi'm chwara pooh sticks efo ffyn.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2016-03-17 11:43 GMT+01:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
Mae'n debyg fod yna gêm a elwir 'Pooh-sticks' ac wedi Gwglo dyma ganfod mai "Winnie the Pooh" ddyfeisiodd y gêm yn llyfrau AA Milne.

Dwi wedi gweld llyfrau Cymraeg "Wini'r Pw" - ond mae "ffyn pw" yn swnio'n fudur braidd. Rhyfedd bod "pooh-sticks" yn dderbyniol - mae'n rhaid mai'r 'h' sy'n gwneud y gwahaniaeth hanfodol. Mae "poo-stick" yn cyfleu syniad eitha gwahanol.

Dwi'n gwbod nad pnawn dydd Gwener ydi hi eto, ond unrhyw awgrymiadau? ;-)

Geraint