Sylw da a phwysig Felicity From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 23 March 2016 17:06 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: Cyclists dismount Y broblem ydi fod pobl YN dweud disgyn, ond i olygu syrthio. On 23/03/2016 15:19, Neil Shadrach wrote: Ydy pobl yn dweud 'mount/dismount' yn Saesneg? Go brin. Ar 23 Mawrth 2016 am 14:55, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> ysgrifennodd: Ond ydy pobl yn dweud 'disgyn oddi ar feic' yn yr ystyr 'dod oddi arno' erbyn hyn? Fyddwn i byth yn dweud 'disgynna oddi ar dy feic' wrth blentyn. Cytuno efo'r sylw am beidio รข defnyddio'r gorchmynnol. Yr awgrym yn sicr yw y byddai'n ddoeth i rywun gerdded yn hytrach na reidio. -----Neges Wreiddiol/Original Message----- Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>] Ar ran/On Behalf Of Geraint Jones Anfonwyd: Dydd Mercher, 23 Mawrth 2016 14:47 At: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> Pwnc: Re: Cyclists dismount Hyd y gwela i nid oes deddfwriaeth yn penodi'r cyfieithiad (gan nad oedd ar gael ym 1985). Wela i ddim o'i le ar "Beicwyr/Man Disgyn". Efallai ei fod yn codi hwyl, ond dim ond gan ein bod ni wedi arfer peidio chwerthin am ben y Saesneg ar arwyddion sy'n od ar y naw pan fydd rhywun yn ei weld trwy lygad newydd. Rhaid peidio creu'r argraff mai gorchymyn syd yma, gan mai dim ond cynghorol yw'r arwydd yn ol deddf. Ac mae'r Canllaw swyddogol yn dweud na ddyli ond ei ddefnyddio ar ddiwedd llwybr beidio sydd mewn peryg o arwain beiciwr i fynd yn ei flaen i rhwyle nad yw becio'n gyfreithlon. Nid mai dyna sut y'i defnyddir fel arfer.